"Mi fedra i ddweud yr union ddyddiad pan ddechreuais i arlunio - 25 Mai 2003. Dyna'r diwrnod y gwnes i fraslun o flodyn dant y llew.Roedd cymdoges i mi, Jan Barnes, a oedd yn athrawes cerdd, yn dioddef o gancr ac mi welais i arddangosfa o'i ffotograffiaeth hi ym meddygfa Llanrug. Roeddwn i wastad mor brysur efo'r plant ond mi wnes i amser i fynd i weld ei lluniau a gwelais un oedd yn mynegi amser wrth i un petal ar ôl y llall gael ei chwythu oddi ar ddant y llew - un o'r gloch, dau o'r gloch ac yn y blaen.
Es i sgwrsio efo hi am y lluniau - roedd yn dda gallu siarad am rywbeth heblaw ei salwch, a pan ddechreuais i wneud lluniau dyfrliw dywedodd hi wrtha i am gario mlaen am ei bod hi'n gallu gweld rhywbeth yn fy lluniau. Bu farw Jan ym mis Awst 2003.
Ar ôl ryw chwe wythnos o wneud gwaith dyfrliw, es i ymlaen i wneud tirluniau. Yna dyma fy ngŵr yn dweud: "Yli, ti'n mynd i'r siop i fframio bob dim ac mae'n costio ffortiwn, pam na ei di ar gwrs i ddysgu sut i fframio dy hun?"
Felly es i ar gwrs am bythefnos i'r Blaenau a dysgais sut i dorri gwydr. Doedd o ddim mor anodd ag o'n i'n ei feddwl, felly es adref efo'r offer torri gwydr a dechrau arbrofi a thorri tŷ allan (sgwâr efo triongl ar y top fel to).
A be sy' o amgylch tŷ? Waliau cerrig. Felly es i chwilio am ddarnau bach o lechi i greu'r wal a darnau o sbageti fel polion teligraff, a jest cael hwyl.
Ond doeddwn i ddim yn gwybod beth i'w ddefnyddio i lynu pob dim efo'i gilydd. Mi es at clairvoyant yn Sir Fôn a gofynnais iddi lle roedd y 'miri' celf 'ma yn mynd â fi! Oedd hi'n werth i mi gario 'mlaen? Ac mi ddywedodd ei bod hi'n gallu clywed rhywun yn gweiddi 'enamel, enamel'.
Roeddwn i wedi bod yn arbrofi efo lot o bethau gwahanol ac yn y diwedd mi ddaru mi ddarganfod stwff mewn siop celf yng Nghaerloyw oedd yn caledu o fewn diwrnod, fel enamel!
Dwi'n cael ysbrydoliaeth gan y wlad o fy amgylch. Es i Fynydd Parys a gweld tyddyn bach digon del mewn adfeilion gyda thyrbeini gwynt heb fod ymhell ohono ac mi ges i'r syniad ar gyfer fy llun Cymru - Symud Efo'r Oes - hen bethau wrth ymyl pethau mor newydd.
Ar ôl dod yn hyderus efo torri gwydr rhoddais her i fy hun gan feddwl beth oedd y peth anoddaf y gallwn i ei wneud efo gwydr? Wyneb! Felly dechreuais efo person enwog lleol - Bryn Terfel gan wneud llun ohono yn gyntaf drwy rewi llun ar y teledu. Wedyn mi fydda i'n mynd ati i dorri darn o wydr sy'n debyg i siâp y wyneb - yn grwn neu yn fwy sgwâr - yna mynd ati i adio'r gwallt, y llygaid a'r gwefusau gyda darnau bach o wydr a'u lliwio gydag enamel.
Mae'n rhaid bod yn union gywir, i lawr i'r milimedr olaf neu fydd y person ddim yn edrych yn iawn. Mi ges i drafferth efo llygaid Elvis a gwefusau Bryn - ac mae dannedd wastad yn boen: rhy fawr a mae rhywun yn edrych fel ceffyl, rhy fach ac maen nhw'n edrych yn od!
Gan fy mod yn defnyddio cymaint o bethau gwahanol - gwydr mewn mosêc, weiren bigog, llechi, cortyn - mae'r lluniau yn textured iawn - gwych i rhywun dall deimlo eu ffordd o amgylch y llun.
Y tro cyntaf mae pobl yn gweld y lluniau mae nhw un ai yn eu hoffi neu eu casáu! Maen nhw'n sgleiniog iawn wrth gwrs, dyna natur gwydr, ac mae rhai wir yn hoffi hynny a rhai ddim - ond fedrwch chi byth blesio pawb!"
Bydd Karen yn arddangos ei lluniau ar faes Eisteddfod Genedlaethol Eryri a'r Cyffiniau.