Mi es i'r ysgol yma yn Seymour, ger Knoxville, Tenessee, ers i mi orffen fy TGAU yn Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch. Mi wnes i ddod yma i chwarae pêl-fasged.
Mi wnes i gychwyn chwarae yn Ysgol Amlwch, wedyn ymlaen i chwarae dros Ynys Môn ag ennill cwpan Cymru gyda nhw. Mi ges i wedyn fy newis i chwarae pêl-fasged i Gymru ac mi wnes i gyfarfod yr hyfforddwr Todd Stone o Abertawe. Roedd o wedi bod i'r ysgol yma ac wedi chwarae pêl-fasged yn y coleg yn America a dywedodd, os oeddwn am gymryd y gêm o ddifrif, y byddai'n well i mi feddwl am fynd draw i'r Unol Daleithiau.
Ysgol breifat ydy o, gyda tua 120 o ddisgyblion yn yr high school, er mae yna ysgol gynradd hefyd. Mae lot mwy o gyfleusterau chwaraeon yma.
Dwi wedi darganfod fy mod i'n well am chwarae American Football na phêl-fasged. Er mod i'n 6 troedfedd 2 fodefedd, mae rhai yma yn 6.6 neu 6.8 a dwi'n well fel ciciwr pêl-droed, yn enwedig ar ôl chwarae rygbi. Mae American Football yn massive yma - mae dros 400 yn dod i weld y gemau bob nos Wener, sy'n wahanol i gemau yn ysgol Amlwch!
Ond well i mi ddweud mai rygbi ydy'r gêm orau neu mi fydd fy nhad yn gweiddi arna'i! Er hynny, mae angen yr holl offer amddiffyn mewn American Football gan y gall unrhyw un eich taclo, hyd yn oed os nad ydy'r bêl gennych chi.
'Da ni hefyd yn cael pethau fel y Prom a'r ddawns Home Coming yma. Roeddwn yn rhan o lys yr Home Coming, sef un o'r tri bachgen fyddai'n cael ei ddewis i fod yn frenin am y noson. Yn anffodus, ges i ddim digon o bleidleisiau i fod yn frenin ond roedd yn lot o hwyl.
Mae'r addysg ychydig yn wahanol yma, yn enwedig arholiadau. Mae popeth yn multiple choice. Dydych chi ddim yn gallu 'wafflo' wrth ateb cwestiwn fel yn TGAU - rydych chi'n gywir, neu'n anghywir. Ddaru hi gymryd amser i mi weithio fel 'na.
Yn y diwedd, dydyn ni ddim yn cael gradd A, B neu C ond yn hel credits. Rhaid cael digon ohonynt i allu graddio ar ddiwedd ysgol - a dwi wedi gwneud hynny.
Mae Seymour yn lle mor laid back - mae pawb yn mynd allan o'u ffordd i'ch helpu. Dwi'n byw yn un o dorms yr ysgol gan fod yna eraill sy'n preswylio yma hefyd.
Roedd lot yn yr ysgol wedi clywed am Gymru yn barod gan fod Todd (Stone) ac eraill wedi bod yma. Ond roeddent i gyd yn dod o'r de, a ddim yn siarad Cymraeg - y gogledd yw'r gorau wrth gwrs!
Dwi yn colli Ynys Môn a fy ffrindiau adref ond da ni'n cadw mewn cysylltiad dros y we a dwi wedi gwneud lot o ffrindiau da yma. Dwi'n meddwl aros draw yn America rŵan 'mod i wedi gorffen yn yr ysgol. Dwi wedi cael cynnig ysgoloriaeth i fod yn giciwr American Football i goleg Tusculum, sy' tua awr i ffwrdd o fa'ma. Os ga i ar y tîm, mi fydd ail gêm y tymor yn erbyn Liberty College, mewn stadiwm sy'n dal dros 100,000 o bobl. Mae hynny'n fwy nag Old Trafford, mwy na stadiwm y Mileniwm hefyd! Er nad yw'n gem broffesiynol mae pêl-droed coleg yn beth mawr iawn fan hyn.
Ond dwi'n siŵr ddo'i adref rhywbryd. Dwi'n colli'r traeth - dwi dros bedair awr o'r môr fan hyn, sy'n wahanol iawn i Ynys Môn.