| Bu nifer o'r cyn-filwyr yn siarad am y tro cyntaf ar raglen Manylu ar BBC Radio Cymru am yr hyn ddigwyddodd iddyn nhw yn ystod y brwydro ffyrnig mewn rhyfel barodd ychydig dros ddeufis rhwng Ebrill a Mehefin 1982. Mae'r atgofion yn dal yn fyw iawn yn y cof a'r profiadau wedi cael effaith ddofn ar eu bywydau ers hynny.
Siân Sutton, gohebydd BBC Radio Cymru, fu'n siarad â nhw: Maldwyn Jones
Roedd Maldwyn Jones wedi bod gyda'r Gwarchodlu Cymreig am saith
blynedd pan daeth yr alwad i fynd i ryfel ym 1982. Ymunodd â 3,000 o filwyr
ar fwrdd llong bleser y QE2 yn Southampton ar gyfer siwrne wyth mil o filltiroedd i Dde'r Iwerydd. Roedd ar fwrdd y Sir Galahad wrth angor yn Port Pleasant, neu Bluff Cove, pan gafodd ei tharo gan fomiau awyrennau'r Ariannin. Mae'r hyn welodd ac a glywodd y diwrnod hwnnw wedi bod yn anodd iddo siarad amdano ers hynny.
Mae Maldwyn Jones erbyn hyn y blismon cymunedol ym Methesda ac yn
aelod o fudiad SAMA - 'South Atlantic Medal Association' - sy'n cynnig cyngor a chefnogaeth i gyn-filwyr y Falklands.
Wil Howarth
Roedd Wil Howarth o Amlwch yn guardsman 23 oed ac ar fwrdd y Sir Galahad pan gafodd ei tharo gan awyrennau rhyfel yr Ariannin ar Fehefin 8, 1982. Mae'n cofio'r dryswch a'r ofn ar fwrdd y llong wrth iddi losgi a chlywed llais Simon Weston, ymysg eraill, yn gweiddi. Aeth nôl i'r Ynysoedd bedair blynedd yn ôl. Clive Aspden
Roedd Clive Aspden yn 19 oed ac yn un o bump o fechgyn o ardal Blaenau Ffestiniog i fynd gyda'r Gwarchodlu Cymreig i'r Falklands.
Roedd eisoes wedi glanio ar y tir yn Fitzroy yn disgwyl gweddill y Gatrawd pan welodd yr awyrennau isel yn anelu am y Sir Galahad a Sir Tristram wrth angor yn Bluff Cove. Roedd yn gwybod yn reddfol fod ei ffrindiau a chydfilwyr
wedi'u taro a'u hanafu. O'r 58 o bobl gafodd eu lladd ar y Sir Galahad y diwrnod hwnnw roedd 32 yn aelodau'r Gwarchodlu Cymreig. Ond er waetha'r colledion aeth Clive Aspden a'i gydfilwyr ymlaen a'r frwydr i Port Stanley
er mwyn rhyddhau'r Ynysoedd o ddwylo lluoedd yr Ariannin.
Mae siarad am y tro cyntaf am ei brofiad yn boenus ac emosiynol iddo.
John Alun Hughes
Deunaw oed oedd John Alun Hughes hefyd o Flaenau Ffestiniog pan aeth i ryfel yn y Falklands. Ond cafodd ei brofiad effaith ddifrifol ar ei fywyd ers hynny. Ar ol cael
ei godi mewn hofrennydd o fwrdd bad achub y Sir Galahad cafodd ei anfon yn syth adre
ar fwrdd llong ysbyty. Ddeng mlynedd yn diweddarach cafodd wybod ei fod yn dioddef
o anwylder PTSD - Post Traumatic Stress Disorder. Mae'n mynnu bod deunaw oed yn rhy ifanc i fynd i ryfel a bod angen mwy o gefnogaeth
ar filwyr heddiw yn Irac ac Afghanistan.
Yr Uwch Gapten Eirwyn Jones
Swyddog gweinyddol gyda'r Gwarchodlu Cymreig oedd Eirwyn Jones ym 1982. Ei gyfrifoldeb yn ystod rhyfel y Falklands oedd torri'r newyddion i deuluoedd y gogledd am golledion milwyr. Dyma brofiad anoddaf ei yrfa 35 mlynedd gyda'r gwarchodlu, meddai. Ond ar ôl i'r brwydro ddod i ben cafodd Eirwyn Jones newyddion drwg ei hun. Roedd ei
fab oedd yn rhingyll gyda'r Gwarchodlu wedi'i anafu'n ddifrifol mewn damwain
Collodd ei ddwy goes wrth i daflegryn exocet daro grwp o 8 o aelodau'r gwarchodlu wrth iddyn nhw glirio'r maes awyr yn Port Stanley. Ond mae gan yr Uwch Gapten farn bendant am sut y dylai milwyr gael eu cofio
yn enwedig eleni bum mlynedd ar hugain ers y Falklands.
Yr Arglwydd Wyn Roberts o Gonwy
Roedd yr Arglwydd Roberts o Gonwy yn is weinidog yn y Swyddfa Gymreig ac yn rhan o lywodraeth geidwadol y dydd. Roedd yn cefnogi penderfyniad y Prif Weinidog, Margaret Thatcher, i anfon Tasglu Prydain i amddiffyn yr Ynysoedd a'u cipio nôl o ddwylo'r Ariannin.
Ond drwy ei ddyddiadur ar y pryd mae'n nodi bod dilyn hynt y brwydro a gwylio'r cyfan o bell ar deledu wedi cael effaith arno'n bersonol hefyd. Cefndir
Ar Ebrill 2, 1982 daeth cadarnhad bod milwyr y Cadfridog Galtieri wedi goresgyn Ynysoedd y Falkland oedd wedi bod yn nwylo Prydain ers 1833. Ymateb y Prif Weinidog, Margaret Thatcher, oedd anfon Tasglu a Llynges Prydain ar siwrne 8,000 o filltiroedd i Dde'r Iwerydd i'w hamddiffyn a'u cipio yn ôl.
Gadawodd y llongau cyntaf Brydain ar 5 Ebrill 1982 ac roedd llawer o Gymry yn eu plith yn aelodau o'r Gwarchodlu Cymreig.
Yn ystod y brwydro ffyrnig dros Ynysoedd y Falkland, bu farw dros 250 o filwyr Prydain a 650 o aelodau lluoedd yr Ariannin.Os oes ganddoch chi stori bersonol neu sylw am yr eitem hon fe fydden ni'n falch o glywed ganddoch chi. Gallwch lenwi'r blwch isod neu anfon ebost at: gogleddorllewin@bbc.co.uk
 |