"Roeddwn yn cynyrchioli Guides Cymru ar daith o amgylch Awstralia gyda Guides o wledydd tramor. Roeddwn yn cynrychioli Cymru, a hefyd yn cynrychioli fy nhref, sef Caernarfon.
"Bues yn ymweld â phob gwladwriaeth yno, sef; Queensland, New South Wales, Victoria, Tasmania, South Australia, West Australia a Northern Territory. Yn y drefn yna y gwelais y wlad.
"Cefais y cyfle o fynd ar y daith, a oedd yn bump wythnos o hyd, yn cynrychioli Guides Cymru ar ran Caernarfon. Enw'r trip oedd 'Guide Friendship Train', gan ein bod ni yn teithio o amgylch Awstralia gyda thrên, o un wladwriaeth i'r llall. Roedd aelodau o wledydd megis Canada, Seland Newydd, Yr Alban, Lloegr, Japan a Singapore, ac aelodau o Awstralia ei hun, ar y daith gyda mi.
"Y daith gyntaf oedd mynd i Cairns a gweld y Kuranda Rainforest, a chael gweld y goedwig o gar cebl tra yn yr awyr. Buom yn aros mewn resort ynghanol y goedwig. Buodd rhaid i'r Scenic Sky Rail gael ei adeiladu gan hofrennydd, i rwystro gwneud unrhyw niwed i'r coed a'r natur yno.
"Aethom wedyn i'r Barrier Reef, a chefais i snorclo yn y môr gyda'r pysgod prydferth a chreaduriaid estron, a chael trip ar yr hofrennydd dros y Barrier Reef i weld yr olygfa fendigedig. Euthum wedyn i weld koalas a changarŵs yn Pine Koala Gardens.
"Ymlaen wedyn i Brisbane, a chael cwrdd â Guides o'r ardal honno ac aros mewn Tŷ Guides yno, sef Kindylan. Cawsom camp fire a barbeciw sosej.
"Ymlaen wedyn gyda thrên dros nos i Sydney, cael ymweld â Darling Harbour a dringo Pont Harbwr Sydney, a golygfa anhygoel o'r Tŷ Opera! Roedd yn brofiad gwych ac yn olygfa gwerth chweil: diwrnod blinedig, tair awr o gerdded dros y bont, ond lluniau bythgofiadwy i gofio! Gwelais lun o dîm rygbi Cymru 2003 ar y wal yno.
"Hefyd euthum i weld yr olygfa o Centrepoint Tower a chael cinio picnic ar Bondi Beach - wel am neis!
"Ac yna ymweld â Blue Mountains (Katoomba) a Taronga Zoo y diwrnod canlynol.
"I Melbourne dros nos ar y trên, a gweld y dref a'i marchnadoedd bwyd. Mynd i Ballaraat i weld Sovereign Hill, a oedd yn enwog am ei aur. Mynd i weld y pengwins wedyn i Phillip Island. Gwelais Eglwys Gymraeg yn Melbourne.
"Ymlaen i Launceston, Tasmania gydag awyren o Melbourne, a chael trip i Cradle Mountain a thaith gerdded i Ronny's Creek.
"Yna, roeddwn yn hedfan yn ôl i Melbourne ac yn cael trên oddi yno i Adelaide lle gwelais Harbwr Victor. Ymlaen wedyn o Adelaide ar y trên am ddiwrnod cyfan nes cyrraedd Alice Springs. Dros 15 awr o anialwch llwyr; roedd yn hyfryd cael gweld golygfa MOR wahanol i'r arfer a geir yma yng Nghymru. Roeddem yn cysgu mewn pabell am bedair noson ynghanol yr anialwch.
"Cawsom daith gerdded i King's Canyon a King's Creek: cael gweld yr haul yn mynd i lawr yn Uluru/Ayer's Rock - hyfryd! Yna, codi am 4.30 y bore er mwyn cael mynd i weld yr haul yn codi yn Uluru a chael gweld Kata Tjuta. Roedd y tir i gyd yn goch yno, am ei fod mor sych. Roedd yn anhygoel bod mewn ardal aboriginal a chael gweld lluniau yn ei hiaith hwy ar yr ogofâu ar y garreg fawr hon. Mae Uluru yn lle crefyddol iawn gan yr Aborigines ac nid ydynt yn hoffi i bobl ddringo'r garreg, gan ei bod yn gysegredig ganddynt hwy. Mae Uluru yn cael ei brydlesu gan y bobl Anangu i lywodraeth Awstralia am 99 blwyddyn, mae 20 mlynedd o'r brydles hwnnw wedi pasio yn barod, ac wedi i'r brydles ddarfod, bydd y bobl Aborigine yn cymryd Uluru yn ôl.
"Gwelsom stesion y Flying Doctors a hefyd Alice Springs School of Air: gan fod yna gymaint o bobl yn byw yng nghanol yr anialwch, mae angen doctor ac ysgol i gael atynt hwy - ysgol drwy donau radio a helicopter i'w hebrwng i'r ysbyty.
"Cawsom dywysydd Aborigine a chawsom stori'r Stolen Children a chael cyfle i ddysgu sut i daflu bwmerang yn gywir, ond roedd yn dipyn o gamp!
"Trên yn ôl o Alice Springs wedyn i Adelaide, a mynd i Barossa Valley ble y gwneir gwin yno a ble ceir ras feic flynyddol y Barossa Valley (debyg i Tour de France) a chawsom weld y Whispering Wall, gydag argae/afon un ochr iddo, a choncrit caled yr ochr arall.
"Aethom ymlaen wedyn i Perth: dwy noson ar y trên o Alice Springs a mynd am drip ar gwch i Rottnest Island.
"Awyren y diwrnod canlynol o Perth i Dubai, ac yna awyren arall o Dubai yn ôl am Brydain."