BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eich Llais

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Dafydd Williams a ffrindiau yn mwynhau yn FfraincNewid byd
Penderfynodd Dafydd a Beryl Williams o Ben Llŷn gael newid bywyd llwyr drwy adael Cymru a chychwyn bywyd newydd yn Ne Ffrainc. Ond sut mae bywyd ar ôl dwy flynedd yng 'ngwlad y prŵns'?!
Dafydd Williams:
"Dwi'n dod o Borthmadog ac mae Beryl yn dod o Nefyn yn wreiddiol. Gwerthu ceir oeddwn i ac roedd Beryl yn dysgu - ond mi ddaru ni benderfynu ymddeol a symud i Ffrainc ddiwedd mis Medi 2003.

Dwi wedi bod â diddordeb yn Ffrainc ac mewn pethau Ffrengig ers blynyddoedd. Roeddwn i'n arfer gwerthu ceir Ffrengig ac yn dŵad i Ffrainc yn aml i brynu ceir ac hefyd ar wyliau, felly roedd yn eithaf rhesymol dod yma ar ôl ymddeol.

Dafydd WilliamsRydan ni reit yn ne orllewin y wlad, mewn pentref bach o'r enw Saint Aubin i'r de o Bergerac. 'Da ni ynghanol y wlad lle maen nhw'n tyfu afalau, grawnwin ac eirin i wneud prŵns.

Mae'r pentra'n reit fach - dim ond rhyw 400 o bobl - ond da ni'n hoffi yma. Mi wnaethon ni chwilio am dŷ am bron i naw mis gan fyw mewn carafán fach ar ôl gwerthu'r tŷ adra. Mi ddaethon ni draw a chrwydro Ffrainc drwy'r gaeaf, yn edrych ar dri tŷ bob dydd.

Ddaru ni ddechrau yn y Loire, wedyn y Dordogne ac i lawr i Carcassonne ond roedd yn llawer gwell ganddon ni'r ardal yma. Felly, ddaru ni ddechrau chwilio o ddifri a ffeindio lle gwych i'r garafán. Roedd pawb yn ffeind iawn wrthon ni.

Mi edrychon ni ar bob math o dai ond yn y diwedd mi wnaethon ni ddewis yr hen ffermdy yma. Mae gan hen ffermdai fel yma 'sgubor anferth - mae digon o le i roi chwe charafán yn ein sgubor ni ac mae ffrindiau'n gallu eu gadael nhw yma yn lle gorfod dod â nhw draw i'r cyfandir bob tro.

Un o fy hoff bynciau yn yr ysgol oedd Ffrangeg a dwi'n cofio 'chydig ohono, ond mae hynny flynyddoedd yn ôl wrth gwrs. Da ni'n ei gweld hi'n job dysgu'r iaith ac yn mynd i ddosbarthiadau bob wythnos i wella. Gwen, merch o dde Cymru sy'n ein dysgu ni, felly mae 'na ddau gar efo 'Cymru' ar eu pen ôl yn y pentref!

Tŷ Dafydd a Beryl Mae bywyd yma yn wahanol mewn lot o ffyrdd. Y peth mwyaf ydy'r busnes o gyfarfod pobl. 'Da ni'n arfer ysgwyd llaw, ond yma, cusan ar y boch ydy hi. Mae'n beth mae plant bach, oedolion a phawb yn ei wneud. Mae'n torri'r barrier yn syth!

Hefyd, does na ddim math o sbwriel ar y llawr - mae pob stryd fel pin mewn papur. Does 'na ddim gwm cnoi, papurau yn hedfan o gwmpas na siopau take away a chips na thafarndai fel sydd ganddon ni adra. Mae 'na westy bach yn y pentref ond dydy pawb ddim yn eistedd tu fewn yn yfed drwy'r nos. Mae pobl yn mynd yna i gael swper ac i yfed, ond mi wnawn nhw yfed coffi yr un mor hawdd â chwrw neu win.

Dwi'n gweld y gwahaniaeth wrth ddod adref - dod oddi ar y llong yn Dover a'r peth cynta' sy'n eich taro chi ydy'r sbwriel a'r tai wedi eu bordio. Mae Lloegr yn edrych yn lle ofnadwy o dlawd ar ôl Ffrainc.

Mae'r bwyd yma'n wych hefyd. Dwi wedi rhoi cymaint o bwysau ymlaen ac yn trïo bwyta llai, ond mae 'na gymaint o bethau neis yn y siopau!

Mae 'na lot o bethau na fedrwch chi eu cael yma - does na ddim ffasiwn beth a siwat i wneud pwdin siwat, mae o'n anghyfreithlon! A does 'na ddim sôs brown na Paxo 'na mins peis a cracers adeg 'Dolig - ac mae'r bacwn yn ddifrifol! Mi ddaru ffrindiau ddod draw â 15 litr o baent gwyn i mi hefyd gan fod paent Ffrainc yn ddrud ac yn sobr o wael!

Beryl Williams a ffrind yn yr arddMae pobl y pentref wedi bod yn groesawgar dros ben, yn enwedig pan ddaru nhw ffeindio allan mai Cymry oeddan ni ac nid Saeson! Mae'r pentref yn 'rygbi mad' ac am mai Williams ydy ein henw ni, mae pawb yn meddwl fy mod yn frawd neu'n dad i Shane Williams! Mae 'na stadiwm rygbi bach yma, cyrtiau tenis a lle i chwarae bowls - a dim ond 400 o bobl sy'n byw yma!

Dydy bywyd tramor ddim i bawb, yn enwedig rhai efo lot o deulu adra. Mi gymrodd fwy o amser i mi setlo na Beryl ond dwi wedi setlo rŵan ac yn berffaith hapus. Mae'r tywydd yn help mawr wrth gwrs!"

Beryl Williams:
"Mae'r iaith yn dod yn araf deg ond mae'n rhyfedd fel 'da ni'n medru dallt ein gilydd. Mae pedair o ferched y pentra yn arbennig o dda ac amyneddgar efo fi.

Mae cymryd rhan ym mywyd y pentref yn helpu ac mae clywed yr iaith yn help i mi wella fy Ffrangeg. Trwy'r gaeaf dwi wedi bod yn gwneud blodau ar gyfer Gwŷl Prŵns maen nhw'n ei gael bob blwyddyn! Da ni'n mynd bob nos Lun i greu tomen o flodau plastig fydd yn cael eu defnyddio i addurno'r pentref.

Peidiwch â dweud wrth neb, ond dwi ddim yn hoffi prŵns!

Dwi'n colli rhai pethau am adref, fel yr Eisteddfod. Dwi'n perthyn i'r Orsedd ac yn gobeithio y bydd y teledu lloeren yn gweithio erbyn dechrau Awst i mi gael gwylio'r wŷl.

Ond hyd yma rydan ni wedi bod yn ofnadwy o brysur efo'r tŷ a'r pwll nofio newydd. Er hynny, roedd yn neis pan ddaeth ffrindiau draw y mis diwethaf a'n perswadio ni i fihafio fel twristiaid a chael gweld mwy o'r wlad!"



Papurau Bro
Radio Cymru
Lluniau


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy