Robert Williams yw'r dyn diwethaf i'w eni ar Ynys Enlli. Heddiw mae Bob, 77, yn byw yn Wrecsam gyda'i wraig Doris - ond mae rhan ohono'n trigo byth yn yr hen gynefin.
Mae dau ran i'w fywyd - ym Mhen Llŷn adnabyddir ef fel Gwyndon, ond yn Wrecsam Bob ydyw ef i bawb.
Fe aned ef ar noson stormus yn 1929, yn un o bump o blant i William Hugh a Jane Williams, Nant. Yn rhyfedd iawn, mae gan Bob bump o blant hefyd.
Bu ei ddyfodiad i'r byd yn llawn cyffro, gan mai ei dad a'i ddanfonodd, a hynny mewn argyfwng. Fel arfer aed â'r gwragedd ar draws y don i Aberdaron cyn y geni, ond cyfyngwyd mam Bob i'r ynys oherwydd stormydd geirwon.
Gofynnwyd i gymdoges, gwraig fferm Carreg, i gyflawni swydd y fydwraig ond aeth pethau'n drech na hi, a dygwyd Bob i'r byd gan ei dad ynghanol y ddrycin.
Atgofion cynnes iawn sydd gan Bob o'i blentyndod ar yr ynys. "Roeddwn yn hapus dros ben, ac roedd Enlli yn berffaith i ni blant oherwydd 'doeddem ni ddim yn gwybod am unrhyw fyd arall," meddai.
Roedd pump o blant yn Nant - Bob, Gwilym, Hugh, Guto a Mary. Chwaraeent yn ddedwydd yn y caeau ac ar lan y môr, yn hel coed tân ac yn helpu eu rhieni i gorddi. Un o fân orchwylion Bob oedd mynd draw at Mrs Murray Williams, yr athrawes, i nôl rhagolygon y tywydd ar ddarn o bapur wedi iddi wrando ar y radio - yr unig un ar yr ynys.
Ychydig iawn a erys ar gof o'r dyddiau hynny, meddai Bob, oherwydd gadawsant yr ynys - fel y gwnaeth bron pawb - flwyddyn neu ddwy cyn dechrau'r ail ryfel byd. Roedd cwmwl y rhyfel cyntaf drostynt byth, ac roedd aros yno dros ryfel arall yn ormod i ddygymod ag ef.
Mae'n cofio pianola yn yr ysgol a chroen neidr anferthol ar y wal. "Anaconda neu rywbeth fel 'na - achos doedd na ddim nadroedd ar yr ynys," meddai. Doedd dim llygod mawr chwaith, ond mae Bob yn cofio llygod bach, a'r rheini'n fwy na'u brodyr ar y tir mawr.
Mae'n cofio mynd i'r capel a theimlo'n fychan ymysg y bobol fawr, yn dweud ei adnod gyda'r gweinidog yn gawr yn y pulpud. Doedd dim cartref i'r gweinidog - aethai o aelwyd i aelwyd am wely.
Roedd tri dyn yn byw yn y goleudy, a chawsai'r plant degan ganddynt bob Nadolig.
Roedd bywyd y ffermwyr yn ddyrys iawn, medd Bob, a go brin y medrai ei dad borthi ei dylwyth drwy ffermio'r Nant a physgota dipyn. Roedd Bob tua wyth oed pan ymfudodd y teulu, gyda'r anifeiliaid, i Laniestyn yn Llŷn, i fferm wedi'i rhentu, Aberfawr.
Daeth trychineb bron yn syth, yn 1938, gyda marwolaeth ei dad yn 42 mlwydd oed. "Roedd wedi gweithio'i hun i farwolaeth," meddai Bob. "Roeddem yn dlawd iawn wedyn."
Buont yn byw mewn bwthyn bach - Tŷ'n Ffrwd - yn Ninas ar ochr Garn Fadryn, ond roedd eu mam yn wael gyda chlefyd Parkinson erbyn hyn a bu raid iddynt symud o gwmpas: am sbel efo'u nain yn Aberdaron, a wedyn yn Sarn.
Aeth dau o'r bechgyn i'r rhyfel, a bu rhaid i'r ferch, Mary, ymadael â'r ysgol yn 14 oed i edrych ar ôl ei mam, hyd at ei marwolaeth.
Ar ôl y National Service aeth Bob i lafurio yn Wrecsam, ac yno y mae byth, ym Mhentremaelor, gyda Doris. Byddant yn dathlu 50 mlynedd o briodas eleni. Ganed iddynt bump o blant: Siân, Lynn, Paul, Glyn a Mari.
Mae Bob wedi dychwelyd i Enlli deirgwaith - gyda HTV mewn hofrennydd i wneud rhaglen deledu yn y 70au, a dwywaith gyda Doris, sydd yn hoff iawn o'r ynys hefyd.
Maent yn gobeithio mynd ar bererindod yno eto eleni.
"Rwy'n sôn am y lle o hyd, ond fedrwch chi ddim mynd yn ôl i'r gorffennol," meddai Bob. Mae wedi dymuno i'w deulu chwalu ei lwch yno. Tybia Bob bod merch wedi ei geni ar ei ôl yntau ar Enlli, a bod hithau hefyd yn byw yn Wrecsam. Efallai mai Meira yw ei henw.
"Mae 'na rhywbeth gwefreiddiol ynghylch y lle, yn arbennig ym mis Ionawr a Chwefror, pan y bo hi'n dywyll yn y gaeaf ac yn stormus - lle unig iawn," meddai Bob, sydd erbyn hyn yn lled-ddall, ac o'r herwydd ychydig iawn o'i hen gartref y gwelith y tro nesaf aiff yno.
Lloyd Jones