 |  |  | Artist lleol yn Fenis Mae Bedwyr Williams wedi cael ei ddisgrifio fel un o'r artistiaid ifanc mwyaf addawol ym Mhrydain gan feirniad celf papur newydd y Guardian, Adrian Searle. |  |  |
 | Enillodd yr artist o Hen Golwyn Wobr Gelf Paul Hamlyn gwerth £30,000 yn 2004.
Yn gyn-ddisgybl yn Ysgol y Creuddyn, Llandudno, aeth Bedwyr i Goleg Menai, Bangor, i ddilyn cwrs celf sylfaenol am flwyddyn cyn mynychu coleg celf St Martin's yn Llundain. Dywed mai'r cwrs ym Mangor a'i hysbrydolodd i ddilyn gyrfa fel artist, a bod profiadau ei blentyndod a'r profiad o gael ei fagu'n Gymro Cymraeg mewn ardal ddi-Gymraeg, yn dylanwadu ar ei waith.
"Yn Rhostryfan dwi'n teimlo fy mod i mewn theme park Cymraeg, yn medru gofyn am bethau yn y siopau ac ati yn Gymraeg. Doedd hynny ddim yn bosib ym Mae Colwyn. Mae rhywun yn teimlo ar y tu allan, fel nad ydy o'n rhan o'r hyn sy'n mynd ymlaen o'i gwmpas."Disgrifia Bedwyr ei hun fel artist aml-gyfrwng. "Dwi'n awyddus i gael amrywiaeth. Dwi ddim isio cael fy nghyfyngu i un math o waith. Dwi'n Jack of all trades, master of none!" Bedwyr oedd yr artist preswyl a gynrychiolodd Cymru yng Ngŵyl enwog y Biennale yn Fenis 2005 ac fe dreuliodd dri mis yno. "Mi ro'n i'n reit unig ar y dechrau, mae'n lle od i fyw yno ar ben dy hun. Mae'n lle rhamantus ac o'n i'n teimlo fy mod i'n gweld cyplau ymhobman! Ond mae'n ddinas wych, ac mae'r ŵyl yn ddigwyddiad sy'n denu pobl o bob cwr o'r byd. Ro'n i'n falch iawn o gynrychioli Cymru yno ac rwy'n meddwl fod y gwaith wedi sefyll ei dir yn dda. Mi ro'n i'n cael ymateb da." Fe luniodd Bedwyr gyfres o bosteri yn pwysleisio'r cysylltiad rhwng Rhostryfan a Fenis - cysylltiad hollol ffug wrth gwrs! Mae hefyd wedi cyhoeddi llyfr, Basta, sy'n dwyn o'i brofiadau yn ystod yr ŵyl. Mae ei waith wedi ei arddangos yn Oriel Mostyn yn Llandudno ac oriel Store yn Llundain. Tyranny of the Meek oedd teitl y gwaith a arddangoswyd yn Llundain. Mae'n bortread o ddial sydd wedi datblygu o brofiad gafodd Bedwyr yn fachgen ysgol ac yntau'n aelod o glwb Rheilffordd Fodel oedd yn cael ei herio'n aml gan aelodau Clwb Snwcer cyfagos.Cafodd y rhaglen Blwyddyn Bedwyr Williams, a oedd yn dilyn Bedwyr o'i gartref ger Rhostryfan i Bontrhydfendigaid, Efrog Newydd, Fenis a Llundain, ei darlledu ar S4C fis Rhagfyr 2005.
 |  |  |  |
|
|