"Ym 1956 roeddwn i'n gweithio yn Sir Amwythig ac mi es i i Gymru am bum diwrnod, oherwydd roedd arna i eisiau gweld mynyddoedd am y tro cyntaf yn fy mywyd. "Cymerais i'r trên o Amwythig i Borthmadog. Enw'r trên oedd Cambrial Coast Express a chymerodd o bum awr i fynd i Borthmadog, ond roedd pob munud yn hyfryd. O Borthmadog cerddais i i Gapel Curig a syrthiais i mewn cariad gyda Chymru yr eiliad welais i Moel Siabod.
"Byth ers hynny roeddwn i'n dod i Gymru bob tro pan ges i dri diwrnod yn rhydd - un diwrnod i yrru yna, un i aros ac un i yrru adre.
"Ym 1985 o'r diwedd aeth hi'n bosibl i mi symud i Gymru a 'sgrifennais i i bob gwerthwr tai yng ngogledd Cymru i gael tŷ efo tipyn bach o dir.
"Roeddwn i eisiau hefyd nant, achos roeddwn i'n breuddwydio cadw hwyaid, ac mae hynny'n waith caled heb ddŵr. Anwybyddodd y rhan fwyaf o werthwyr tai fy nghais i am gael nant, efallai am nad oedd gen i lawer o arian i'w wario. Roedd ambell werthwr tai yn anfon hysbysebion am dai efo gerddi ac afonydd brithyll am dair gwaith y pres a oedd gen i. Taflais i'r rhain yn y fasged ysbwriel ar unwaith a pheidiais â disgwyl cael nant.
"O'r diwedd ddes i efo ffrind am bedwar diwrnod i edrych ar bob tŷ oedd gen i. Drwy'r dydd Gwener a dydd Sadwrn teithion ni i edrych ar dai. Yr unig ddau dŷ a hoffais i oedd rhai oedd yn sefyll ar ben mynydd heb ffordd na llwybr iawn hyd yn oed a fedrwn i ddim byw yno ar fy mhen fy hun pan fyddwn i'n heneiddio.
"Gyda'r nos ddydd Sadwrn roedden ni yn Croesor am wyth o'r gloch heb wybod ble oedden ni a bron heb betrol. Fel roedd pob garej wedi cau dywedais i bod rhaid i ni aros am y nos, a dywedodd fy ffrind: 'Dos yn ôl i'r ffordd fawr a throi i'r chwith a byddi di ar y ffordd i Ddolgellau. Mi fedrwn ni gael ystafell am y nos yno.'
"Roedd hi'n iawn, ac fel roeddwn i'n gyrru heibio'r atomfa gofynnodd hi beth oedd o. Roeddwn i wedi gweld yr atomfa dros y llyn ond mae'n edrych yn wahanol o'r ffordd, yn waeth. Roeddwn i yn pendroni dros y peth ac yn gyrru'n araf iawn. Gan hynny, gwelais i'r arwydd i Drawsfynydd.
"'A,' ebychais i, 'Rŵan mi wna i ble rydyn ni. Mae gan y pentre 'ma garej a thafarn neis sy'n gwneud gwely a brecwast a swper hefyd. Awn i yna ac mi fydd ein problemau i gyd yn cwpla.'
"Aethon ni i mewn i'r dafarn ac archebu swper. Tra roedden nhw'n paratoi'r bwyd, eisteddom ni wrth y bar er mwyn edrych ar y papurau a phenderfynu i ble i fynd trannoeth. Roedd yn glir beth roedden ni'n ei wneud a gofynnodd rhywun i mi os roeddwn i wedi ffeindio tŷ eto. Wedyn gofynnodd o pa fath o dŷ oeddwn i eisiau. Doedd y sgwrs ddim yn ffurfiol a disgrifiais i fy mreuddwyd.
"'Mi hoffwn i dŷ ar ei ben ei hun ond ddim yn bell o bawb, wedi ei adeiladu gyda cherrig, hen, dim yn bwysig beth yw ei faint na'i gyflwr (os fedra i ei fforddio), dim yn bwysig am ardd ond hoffwn i dipyn bach o dir, bydd unrhyw damaid o dir garw yn iawn, lle fedra i weld y mynyddoedd, ddim yn bell o afon ac, os ydy hi'n bosib, hefo nant.'
Breuddwyd amhosib.
"'Mae gen i ffrind sy'n gwerthu tŷ fel hwnna,' dywedodd y ferch tu ôl y bar. Mi wna i ei ffonio fo.' Ac felly ces i brynu Bodyfuddau.
Mae'n golygu popeth i mi. Rydw i'n byw yma rŵan ers tair mlynedd ar ddeg ac mae gen i gymdogion caredig, dau gi defaid a hwyaid hyfryd iawn. Ym Mharadwys rydw i'n byw."
Daffni Percival, Trawsfynydd
Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng BBC Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.