(parhâd - stori Ann Mary Willliams o Rosmeirch)
"Roedd 'na bump ohonom adref. Iwan John oedd yr hynaf, wedyn William, Richie ac Edwyn - a finna yn y canol; fi oedd yr unig hogan. Aeth William i'r rhyfel a t'oedd o 'mond yn hogyn ysgol, doedd o ddim ffit i fynd, ond roedd rhaid mynd yr amser honno. Er, mi ddaeth yn ôl wrth drugaredd.
"Roedd hefyd yn gyfnod o waeledd, yn enwedig y diciáau (TB). Dwi'n eu cofio nhw'n adeiladu Ysbyty Llangefni sy'n dal yma rŵan, ond y sanatorium oedd o yr adeg hynny. Aeth fy mrawd yna yn hogyn ifanc a dwi'n fy nghofio fi'n mynd yna i edrych amdano, a llond y lle, nid yn unig o bobl Rhosmeirch a Llangefni ond o bob man ar yr ynys. Roedd llond y ward o hogia ifanc o dan yr un clwyf. Siopwr oedd fy mrawd cyn iddo farw yn un-ar-hugain oed o'r diciáu.
"Dwi'n cofio un wraig o'r pentra, roedd ei phlant yn yr ysgol efo fi, ac mi gollodd ei gŵr, dau fab a merch - pedwar wedi mynd o'r un teulu.
"Roedd ganddon ni athrawes wych yn Rhosmeirch, Mrs Thomas, ac efo hi es i'n pupil teacher yn Rhosmeirch nes i mi briodi.
"Ar ôl priodi, mi ddaru ni fyw yn Rhosmeirch. Roedd fy ngŵr, Gruffydd, yn grydd yn siop Dic's yn Llangefni, yn gwneud clocsiau. Roedd o'n ffermio 'chydig hefyd a ddaru o adeiladu tŷ i ni yn y topia ma, a fan'no ganwyd Dewi ac Alwyn.
"Mi fyddwn i a Gruffydd fy ngŵr yn reidio beic lot. Aethon ni cyn belled â Chricieth am ein gwyliau sawl tro. Mi fydden ni'n mynd gyda'r bore - mi oedd gan Gruffydd chwaer yn Groeslon, Caernarfon, ac felly mi fydden ni'n cyrraedd fanno a chael bwyd ac, ar ôl 'chydig o oriau, mynd yn ein blaenau a landio yn Rhoslan, rhyw 'chydig o Gricieth.
"Dwi'n cofio ni'n mynd i hel llugaeron (cranberries) yn y caeau yno - ddaru ni wneud jam a teisan bendigedig efo nhw.
"Mi fydde pobl yn gwneud eu bwyd eu hunain mwy yr adeg honno, yn coginio ac yn pobi. Mi fydden ni'n creu'r toes ac yn mynd â fo i Gwaliau, Llangefni, i'w grasu.
"Doedd yna ddim trydan yma tan y chwedegau. Roedd ganddo ni weirles, stôf paraffin a phopty wrth y tân. Roedd yn rhaid cario dŵr o'r ffynnon bob dydd - cario digon dydd Sadwrn ar gyfer y Sul gan nad oedd neb yn gweithio ar y Sul. Ond doedden ni byth yn yfed y dŵr yna!
"Pan ddaru ni werthu'r tir, roedd Dewi adref efo ni yn helpu i werthu'r llefrith. A dyma 'i dad yn dweud: 'Yli, dwi'n ymddeol, a dwi'n gadael popeth i ti i gario 'mlaen, dwi'm isho dim byd', ond mi gafodd sioc fawr pan ddywedodd Dewi: 'Yli dad, dwi'm isho dim byd. T'oes gen i ddim diddordeb mewn ffarmio. Wna'i ddim byd efo fo'. Wel, roedd Gruffydd jest â thorri ei galon - 'Be wnâi efo'r bachgen 'ma?' meddai.
"Aeth Gruffydd at Iwan John i ddweud ei gŵyn a dyma hwnnw'n dweud: 'Dydw i'n synnu dim, ddylai Dewi wedi bod yn y brifysgol ers talwm'.
"A beth bynnag i chi, pen pythefnos roedd Dewi wedi cael mynd i'r coleg ym Mangor ac roedd Gruffydd yn ddigon hapus i weld hynny. Anghofia i fyth mo Dewi yn dod adref pan orffennodd yn y coleg a dyma'r geiriau gyntaf ddywedodd wrtha'i: 'Yli, dyna'r dair blynedd hapusaf o fy mywyd i'. Roedd o wedi joio Bangor gymaint.
"Dwi' wedi cael bywyd reit lawn ond digon syml a dweud y gwir. Does gen i ddim syniad sut dwi wedi cyrraedd 104! Dwi'n dychryn wrth feddwl am y byd heddiw - dwi ddim yn coelio beth sy'n digwydd weithiau."
Nôl i'r dudalen gyntaf...