BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Dolgellau
Eira mawr 1947

Heddwyn Jones a'i gyd-weithwyr yn ystod eira mawr 1947

Rhoddodd eira mawr 1947 gyfle i Heddwyn Jones o Ddwygyfylchi, gynt o Ddolgellau, wneud ychydig o bres poced yn helpu i glirio'r lluwchfeydd.

"Cymerwyd y llun yma yng nghanol mis Mawrth 1947. 'Rwyf yn cofio fy nhad yn dweud rhyw fis yng nghynt, pan roedd yr eira wedi para saith niwrnod yn barod, pe bai yn para wyth niwrnod fe fuasai yn para wyth wythnos. Ac wrth gwrs, felly y bu.

Roedd y ffyrdd o'n cwmpas yn cau yn ôl hefo eira yn gynt nag yr oedd yn bosib i ddynion eu clirio hefo rhawiau. Felly anodd, neu yn wir, mewn rhai llefydd, amhosib oedd rhedeg bysiau ac am gyfnod, trenau hefyd.

Roedd plant yr ardal wrth eu bodd wrth gwrs - dim ysgol a digon o amser hamdden. Roedd yr eira dal i ddod yn gyson bob rhyw ychydig o ddyddiau, ac yn aml nid oedd yn ffit i fentro allan o'r tŷ oherwydd y rhew-wynt a'r lluwchio.

Yn fy chweched flwyddyn yn Ysgol Ramadeg Dolgellau yr oeddwn i ar y pryd a methu mynd i'r ysgol. 'Roedd fy nhad yn aelod o adran Priffyrdd a Phontydd Cyngor Sir Feirionnydd. Cyfle iawn i mi ennill pres meddai fo a threfnodd i mi gael fy nghyflogi gan y cyngor sir. Wel, 'roeddwn i'n meddwl fy mod yn gyfoethog iawn ymhen ychydig amser.

Gan nad oedd aelodau o'r Comisiwn Coedwigo ar y pryd yn gallu mynd at eu gwaith yn y coedwigoedd, cefais i fy nghyfarwyddo i ymuno â gweddill y bois yn y llun uchod i glirio eira ar y ffyrdd bach gwledig. Felly y bûm yn gweithio am rai wythnosau nes i'r tywydd garw gilio pan oedd Gwŷl y Pasg yn nesáu.

Erbyn diwedd gwyliau Pasg yr ysgolion, penderfynais i adael yr ysgol a chychwyn gweithio am gyfnod fel taniwr ar reilffordd y Great Western fel yr oedd hi'r pryd hynny, cyn ymuno a'r heddlu yn 1957.

Cafodd y llun ei gymryd ar y ffordd gul o Rydymain i'r Brithdir, wrth ymyl Ysgol Bryncoedifor, Rhydymain. Mae ysgol newydd yn y pentref bellach - Ysgol Ieuan Gwynedd.

Ynddo y mae Ifor Edwards o Fraich y Ceunant a'i fab Hywel, Dafydd Lloyd o Dŷ Capel Siloh - cefnder i mi - a'i nai Gareth Lloyd Jones o Faesycambren. Y fi sydd yn y canol, ac yna cawn Eifion Jones ac Alf Davies o Fryncoedifor Cottage, yr unig berson Saesneg yn ein plith. Pobol ardal Rhydymain oeddem i gyd heblaw am Eifion Jones. Y fo oedd y pennaeth ar hogiau'r Comisiwn Coedwigo yn yr ardal, ac yn aros yn un o ffermdai'r ardal oherwydd yr eira.

Wrth ochor Dafydd Lloyd mae ei gyfaill cyson, Jagi, ei ddaeargi bychan. Yn chwarae yn yr eira oedd hoff beth y plant - Gareth a Hywel - wrth eu bod yn cael bodd yn y llun efo ni."

Heddwyn Jones

  • Atgofion Eurwen Jones o'r Bala o 1947
  • Lluniau eira y gogledd orllewin

  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.


    Lleol i Mi
    Radio Cymru
    Adolygiadau


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy