| Ers ei sefydlu yn haf 2007 mae Grŵp Cerdded Dolgellau wedi dod yn un o rai mwyaf llwyddiannus Gwynedd ar ôl cael ei sbarduno gan gynllun y Cyngor Chwaraeon, Let's Walk Cymru.
Mae tua 20 o deithiau hawdd ar eu rhaglen hyd yma - gan gynnwys tro o Abergwynant i'r George ac i lefydd fel Abaty Cymer a Choed y Brenin - oll yn llefydd y mae'r gwasanaeth bws lleol yn mynd heibio iddynt yn gyfleus. Yn ôl Ann Jones, sy'n trefnu'r teithiau gyda'i gŵr, Gareth, mae'r aelodau wedi dod yn fwy ffit a bywiog ers dechrau cerdded a phrin yn sylwi eu bod yn cerdded mor bell - tua 3 neu 4 milltir fel arfer - gan eu bod yn sgwrsio ac yn mwynhau cwmni ei gilydd. Yr atyniad pennaf ydy bod allan ynghanol byd natur a chael cymdeithasu a mwynhau'r awyr iach, tra'n cadw'n ffit yr un pryd.
Mae croeso i bawb ymuno, er bod y rhan fwyaf dros 60 - ac felly'n gallu mynd ar y bws am ddim. Mae'r aelod hynaf yn 88 oed ac ymysg y rhai mwyaf egnïol yn y grŵp sydd yn aml yn cymryd yr awenau fel arweinydd y daith. Aelod arall yw gwraig ddall sy'n dod ar y teithiau gyda'i chi tywys. Ond fe hoffai Ann a Gareth weld aelodau ifanc yn ymuno, gan gynnwys mamau gyda'u coetsys babi.
Ers ymddeol ar ôl symud i Ddolgellau yn 1964 - Gareth fel rheolwr siop WHSmith ac Ann i redeg gwesty - mae'r ddau (yn y llun ar y dde) wedi mwynhau cadw'n ffit a cherdded. Eu hoff dro yw drwy Gwm Hafod Oer: dal y bws i ben Talyllyn yna dod yn ôl ar hyd y llwybr beics sy'n dod allan yng ngwesty Fron Oleu, ac yna yn ôl ar hyd y ffordd i'r dref.
Maent yn cyfarfod am 10am bob dydd Llun yng Nghanolfan Hamdden Glan Wnion cyn cychwyn ar eu taith. Os hoffai unrhyw un ymuno ar y teithiau neu gael mwy o wybodaeth cysylltwch ag Ann Jones ar 01341 422 615. Am ragor o wybodaeth am gynllun Let's Walk Cymru a chadw'n ffit , cysylltwch ag Emma Quaeck, Cydlynydd Adfeiriad Cardiaidd ac Ymarfer Cyngor Gwynedd, ar 01766 512711.
 |