| "Dwi'n tynnu lluniau fel ffordd o gofnodi beth sy'n digwydd o fy nghwmpas i. Mae gen i ddiddordeb mawr mewn hen greiriau diwydiannol ac mae'r ardal yma yn llawn o'r fath bethau - nid yn unig y diwydiant aur, ond hefyd copr, plwm ac amaeth.
"Dwi hefyd yn ymddiddori mewn traddodiadau fel y Fari Lwyd sy'n cael ei ddathlu yn Nolgellau bob mis Ionawr. Roedd yn gyffredin ledled Cymru ar un tro, ac mae yn dal i fod yma yn Nolgellau, Dinas Mawddwy a Mallwyd.
"Fel rheol, mi fyddaf yn cynllunio o flaen llaw wrth feddwl am hel lluniau. Dydw i ddim yn rywun sy'n cario camera gyda fi o hyd! Ond mae gen i ystafell dywyll yn y tŷ, a dwi'n disgrifio'r broses o greu ffotograff fel paentio gyda golau. Mi fyddaf yn defnyddio fy nwylo i guddio darnau o'r print os oes angen mwy o olau i ddatblygu rhan arall o'r llun. Dwi'n mwynhau yn fawr."
 |