"Ffurfiwyd Cymdeithas Ddinesig Dolgellau dros 20 mlynedd yn ôl i gadw golwg ar dros 300 o adeiladau rhestredig yn y dref. Roedd pryder mawr am y ffaith fod mwy a mwy ohonynt yn cael eu dymchwel, a bod Dolgellau yn colli adeiladau na ddylai, fel yr hen ysgol ramadeg.
Felly mae'r gymdeithas yn rhoi pwysau ar yr awdurdodau a'r Parc Cenedlaethol ac rydym wedi llwyddo i gael Dolgellau wedi ei henwi yn ardal cadwraeth, ac mae hynny'n golygu fod yr holl rheolau am ddymchwel a chodi adeiladau yn reit strict rŵan.
Mi wnes i gyfrannu at bamffled am adeiladau hanesyddol yr ardal, sef Rhodfa Tref Dolgellau - mae i'w gael o'r dref am £1, elw sy'n mynd i'r gymdeithas.
Roedd yng goblyn o beth i'w sgwennu a chynhyrchwyd y cyntaf gyda chymorth Phil, yr athro daearyddiaeth a'r plant. Roedd mewn du a gwyn ond erbyn heddiw mae i gyd mewn lliw ac enillodd wobr am gynhyrchiad gorau'r flwyddyn rai blynyddoedd yn ôl.
Rydym wedi dewis 50 o'r adeiladau rhestredig mwyaf nodweddiadol, gan nodi eu hanes, ac mae 'na fap i bobl ei ddilyn o amgylch y dref.
Datblygiad arall, gyda chymorth y clwb rotary, yw ein bod am roi plât ar ryw 30 o adeiladau hanesyddol yn y dref i bobl sylweddoli pa mor bwysig ydynt.
Mae 'na rhyw 60 o aelodau, y rhan fwyaf yn bobl broffesiynol sy'n help mawr gan nad oes llawer o arian i'w gael gan y cyngor lleol erbyn hyn a mae'n rhaid cael arian o'r loteri neu gwmni preifat. Mae lot o'r aelodau wedi ymddeol yma o Lundain a'r canoldiroedd ac efo arbenigedd fel penseiri a chyfrifwyr ac yn barod i helpu am ddim.
Roeddent yn grŵp eithaf ar wahân yn y gymuned ond rŵan maent wedi dod i mewn i fywyd y dref ac mae pawb yn sylweddoli ein bod yn cael cymorth mawr ganddynt. Maen nhw wedyn eisiau siarad Cymraeg ac mae rhai yn wych erbyn hyn.
Mae 'na fwyty Tsieineaidd, Indiaidd a siop cibab Twrcaidd yn dre ac mae'r perchnogion yn dweud: 'We don't understand our own children' gan mai Cymraeg yw iaith yr iard felly maen nhw hefyd yn dysgu Cymraeg. Mae 'na gymdeithas gymysg wych yma yn Nolgellau.
'Da ni felly yn cael rhyw chwech neu saith o gyfarfodydd y flwyddyn ac yn cael siaradwyr i sôn am bynciau gwahanol ac yn mynd ar deithiau i adeiladau a llefydd arbennig.
Un peth rydym wedi sylwi arno ydy bod olion traed a dwylo wedi eu crafu mewn i'r hen feddi sydd â thopia llechan ym mynwent Eglwys Santes Fair. 'Da ni wedi gwneud cofnod o bob un bedd yna â marciau bach arnynt ac mae'n amlwg mai traed a dwylo plant ydyn nhw.
I gychwyn, roeddem ym meddwl mai gêm oedd o efallai ond mae'r marciau'n ymddangos dim ond ar y beddi sydd â dyddiadau rhwng 1870 a 1895 arnynt. Dyna gyfnod y trafferth efo streiciau mawr y chwareli, pan adawodd 100,000 o bobl Gymru am America - a hynny allan o boblogaeth o filiwn a hanner, sef canran go fawr. Fy honiad i - a does gen i ddim tystiolaeth pendant am hyn - mai rhoi eu marc ar feddi eu teulu oedd y plant, gan wybod na fyddent yn dod nôl i Ddolgellau byth eto. Dim ond honiad ydy o, ond mae o'n gwneud synnwyr i mi.
Rydym hefyd wedi darganfod ystyr enw'r dref. Mae 'dol' yn golygu meadow, a'r 'gell' yn golygu cell. Hen ystyr cell yw animal pen, felly ystyr Dolgellau ydy meadow where the animal pens were. Mae hyn oherwydd fod y dref wedi datblygu yn amser Llywelyn ap Gruffydd, Llywelyn ein Llyw Olaf, fel tref marchnad Gymreig. Gan mai yma roedd y lle isaf i groesi'r afon, yma adeiladwyd y bont ac felly yma cynhaliwyd marchnadoedd yr ardal. Mae marchnad yn dal i gael ei chynnal yn Nolgellau heddiw bob dydd Gwener."