YSGOL DR WILLIAMS
"Cafodd Ysgol Dr William ei sefydlu yn 1875, yn ysgol i ferched yr ardal, er nad oedd ganddi ddim i'w wneud efo Dr Williams go iawn, ar wahân i'w bres o.
Gweinidog yn Llundain yn y 17eg ganrif oedd Dr Williams, wedi gwneud ei arian yn y ffordd arferol bryd hynny - priodi sawl gwaith a cholli pob un, a phryd hynny roedd eiddo'r wraig yn mynd i'r gŵr. Felly gadawodd £50,000 yn ei ewyllys - sy'n £5m neu fwy heddiw. Fe wnaethon nhw agor rhyw ddwsin o ysgolion elfennol efo'r arian yna, gan gynnwys ysgol yn Llanuwchllyn. Roedden nhw'n galw'r ysgolion yma yn British Schools.
Yn 1870 pasiodd Gladstone y ddeddf addysg a oedd yn sefydlu board schools, ysgolion elfennol yn rhad ac am ddim i bawb.
Felly roedd arian Dr Williams yn cael ei wario am ddim a phenderfynwyd cau yr ysgolion gwreiddiol a defnyddio'r arian i agor un ysgol eilradd i ferched yng Nghymru.
Y rheolau oedd bod rhaid canfod tref yng Nghymru oedd yn barod i hel mil o bunnoedd a chynnig tir addas i adeiladu ysgol. Y dewis cyntaf oedd Caernarfon, ond fe wnaethon nhw benderfynu nad oedd yn lle addas i ysgol merched gan fod yn dref garrison i'r Royal Welch Fuseliers!
Felly fe wnaeth Samuel Holland, a oedd yn berchen ar chwarel Oakley yn Blaenau ac yn aelod seneddol i'r ardal, gychwyn ymgyrch i gael yr ysgol yn Nolgellau. Mi roddodd rhyw ddau acer o dir a threfnodd Dr Edward Jones o Ddolgellau i hel yr arian yn y gymuned. Fe gafodd y llywodraethwyr eu cyfarfod cyntaf yn 1875.
Beth oedd yn bwysig oedd nad oedd yr ysgol yn perthyn i unrhyw fudiad crefyddol. Roedd ysgolion o'r fath yn hot topic ym myd gwleidyddol y cyfnod.
Agorodd yn swyddogol yn 1878 a datblygodd o hynny mlaen fel un o'r ysgolion pwysicaf ym myd addysg eilradd y wlad.
Yn anffodus, bu'n rhaid cau'r ysgol yn 1975. Hyd at y chwedegau, doedd dim ysgol eilradd i ferched yn Nolgellau, dim ond i fechgyn, felly arferai'r cyngor sir dalu i'r merched oedd wedi pasio'r '11 plus' i fynd i Ysgol Dr Williams.
Ond o 1962 ymlaen newidiwyd Ysgol y Gader yn ysgol i ferched a hogiau ac felly o flwyddyn i flwyddyn collodd Ysgol Dr Williams rhyw ugain o ddisgyblion y flwyddyn ac erbyn 1968 aeth yn ysgol hollol breifat a cholli arian y llywodraeth.
Roedd wedi datblygu yn ysgol breswyl, gan brynu hanner dwsin o hen dai yr uchelwyr yn y dref i'r merched gael aros ynddynt. Ond ddaru'r Blaid Lafur ddod i mewn a dweud "we'll squeeze until the pips pop". Roeddent yn hollol yn erbyn ysgolion preswyl a gyda'r deddfau iechyd a diogelwch newydd, roedd yn rhaid gwneud lot o waith i'r tai preswyl. Daeth y minimum wage i mewn hefyd, felly aeth costau cyflogi'r athrawon a'r bobl oedd yn rhedeg y tai preswyl i fyny ac erbyn 1975 roedd yr ysgol yn colli gormod o arian i allu parhau ar agor.
Roedd Ysgol y Gader ar ei hennill gan ein bod yn cael y genod i gyd!"
YSGOL Y GADER
"Y mae Ysgol y Gader wedi newid ei henw sawl gwaith.
Yn 1666, mi adawodd John Elis ei fferm oedd werth £60 y flwyddyn, sef dipyn o arian bryd hynny. Felly cychwynnwyd ysgol ramadeg i chwech o fechgyn lleol a oedd yn cael eu dysgu yn rhad ac am ddim gyda'r ciwrad fel y prifathro!
Y prif athro mwyaf nodedig oedd Dafydd Ionawr, y bardd, a oedd yn bennaeth ar yr ysgol ar ddechrau'r 1800au. I ddangos pa mor bwysig oedd athrawon adeg hynny, aeth yn brif athro i ddechrau, wedyn yn giwrat ac yna yn rheithor!
Fe wnaethon nhw adeiladu'r ysgol gyntaf yn 1737, ym Mhenbryn. Cafodd ei chondemnio yn hollol yn 1847 adeg 'Brad y Llyfrau Gleision'. Dwi wastad yn cadw'r wers am yr adeg yma i ymweliad yr HMIs gan mai dyma hanes yr HMIs cyntaf i ddod rownd a gofyn cwestiynau yn Saesneg a neb yn dallt. Felly doedd yr adroddiad ddim yn dda iawn. I ddechrau, doedden nhw ddim yn gallu dod o hyd i'r un disgybl nac athro ac roedd yr adeilad yn uffernol - tyllau yn y to, dodrefn wedi malu a thomen o lo yn y cornel.
Felly cafodd ei hailadeiladu erbyn 1852. Mae'r adeilad yma wedi diflannu rŵan ond roedd yn ysgol ramadeg am flynyddoedd i fechgyn yr ardal a rhai disgyblion preifat hefyd.
Un o'r disgyblion enwocaf oedd William Edward Morris. Aeth yn gaplan yn y Llynges Brydeinig, ond chafodd o fawr o hwyl. Roedd yn ffrind agos i John Jelico, ac yn rhan o griw y Victoria pan gafodd y llong ei ramio ger Malta ac fe suddodd. Aeth Williams Morris i lawr efo'r llong a phan fyddwn i'n mynd ar gwch efo'r plant byddwn yn eu atgoffa bod ganddon ni draddodiad i'w gadw ar y môr!
Yn 1895, y prifathro oedd Mr Marshall, Mr Furlong oedd yn dysgu mathemateg a Robert Jones oedd yn dysgu hanes.
Ond yr adeg yma, ddaru Esgob Bangor benderfynu rhoi 'cic owt' i bawb, gan ddweud mai'r eglwys oedd pia'r tir. Symudodd yr ysgol ar draws y ffordd i festri'r capel Methodistaidd a galw ei hyn yn County School, a chafodd yr ysgol ramadeg ei rhedeg gan yr eglwys. Felly, roedd gan Ddolgellau ddwy ysgol eilradd tan 1917 pan nad oedd digon o arian i redeg yr ysgol ramadeg a rhoddwyd y £60 y flwyddyn i'r County School.
Erbyn hynny roedd ganddynt adeilad newydd sbon, y Dolgellau County Jubilee School i ddathlu jiwbilî diamwnt y Frenhines Victoria.
Pan ddathlwyd ei golden jubilee, cynigodd cyngor Dolgellau adeiladu'r Victoria Public Urinal ar y Marian, ond penderfynwyd na fyddai'r Frenhines yn amused! Roedd y Bala yn gallach - adeiladwyd Victoria Jubilee Horse-trough fan honno!
Roedd yn ysgol breswyl ac yn ysgol i'r hogiau lleol oedd wedi pasio'r '11 plus' a chafodd enw fel ysgol breifat orau Cymru ar gyfer cerddoriaeth offerynnol, gyda chysylltiadau ag adran gerdd Aberystwyth nes i'r prifathro ffraeo efo'r llywodraethwyr, a datblygodd yn ôl y drefn arferol ar ôl hynny.
Newidiodd ei henw i Ysgol y Gader yn 1962 pan aeth yn ysgol gymysg.
Mi gychwynnais i fel athro hanes (a phethau eraill) yno ar yr adeg yma. Roedd mwy neu lai pob gwers yn Saesneg ond, dros y blynyddoedd, daeth mwy o Gymraeg i'r ysgol. Erbyn hyn mae 'na dri ffrwd - un holl-iaith Saesneg, un holl-iaith Gymraeg ac un lle mae'r rhieni yn dewis pynciau gwahanol mewn ieithoedd gwahanol.
Tan y 1970au roedd rhyw ugain o ddisgyblion preswyl o Hong Kong a Singapore yn yr ysgol. Mae 'na dŷ ynghlwm â'r ysgol a byddai'r bechgyn yn aros yno. Roedd ugain lle i gyd ond weithiau roedd 'na dros 40 - mae'n rhaid eu bod nhw i gyd fel sardîns yno!
Byddent yn dod draw gan fod 'na gysylltiadau gyda'r dref trwy'r hen brif gwnstabl, Hywel chief o Feirionnydd. Roedd wedi bod yn yr heddlu yn Hong Kong a daeth â rhyw 60 o fechgyn Tsieiniaidd drosodd i'r wlad yma efo fo pan ddaeth nôl, a'u rhoi mewn gwahanol ysgolion preswyl. Cafodd ei dalu i fod yn official guardian iddynt yn y wlad yma, a mae sawl un o Ddolgellau wedi bod yn yr heddlu yn Hong Kong.
Roeddent yn cymysgu'n wych efo'r disgyblion eraill. Yr adeg honno, bob amser cinio, byddem yn cael gwasanaeth teuluol ar y byrddau, gydag un disgybl yn bennaeth ar y bwrdd ac yn rhannu'r bwyd allan. Un o'r Tsieineaid oedd pennaeth pob bwrdd efo tomen o fwyd ar ei blant a llai i bawb arall - ond gan nad oeddent yn cael brechdan jam yn y tŷ preswyl doedd dim bai arnynt!"