BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Digwyddiadau

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Pobl yn jeifioBreuddwyd roc a rôl
Da chi byth yn rhy hen neu ifanc i fwynhau bach o jeifio, yn ôl y DJ Mike Russell o Fangor. Mae o am ddod a roc a rôl yn ôl i'r ardal.

Dwi wedi bod yn DJ am dros 25 mlynedd rŵan, a sylweddolais nad oedd yna gyfle i fynd i jeifio yng ngogledd Cymru. Felly rydw i wedi trefnu nosweithiau jeifio yng nghlwb cymdeithasol y Wellman's yn Llangefni, rhwng 7.30 a 11.30 ar drydydd Sul y mis.

Dwi'n sicr fod yna alw am y fath noson achos dwi wedi gweld pobl yn jeifio i rhai o'r caneuon yn ystod noson o gerdd gwlad (nos Sul gyntaf y mis yn y Wellman's). Mae yna berthynas agos rhwng y ddau fath o gerddoriaeth a dwi'n siŵr y gwelai rhai yn dawnsio lein yn ystod fy set!

Mae yna sawl mathau gwahanol o jeifio. Mae'n well gen i'r steil o'r 50au, a oedd yn boblogaidd gyda'r teddy boys. Ond mae'r steil Ffrengig yn boblogaidd iawn hefyd. Mae yna un athro yn Reading sy'n dysgu ei steil arbennig o, ac mae'n hollol amlwg pwy yw ei ddisgyblion wrth edrych arnynt yn dawnsio! Hefyd, dim ond jeifwyr o Gasnewydd sy'n debygol o fownsio o gwmpas, yn debyg i gangarŵ!

Y gyfrinach yw cael cydsymud da gyda'r partner. Dwi wedi gweld sawl dawnsiwr a dawnswraig wych yn dod at ei gilydd ac yn ofnadwy gan nad oes yna'r perthynas iawn rhwng y ddau. Mae yna gymaint o droi a throsi, rhaid cael ffydd yn eich partner!

Yn anffodus, mae fy ngwraig a finnau braidd yn anabl erbyn hyn, ac ond yn gallu ymuno a'r dawnsio yn ystod rhai o'r caneuon arafach, ond mae o dal yn fwynhad gwrando ar yr hen gerddoriaeth.

Dwi wedi bod yn DJ ledled Ewrop ac yn Nashville a Memphis yn America. Er mai nhw ddaru greu roc a rôl, bandiau o Ewrop sydd wedi cadw at sŵn a rhythm y 50au - mae'r Americanwyr wedi datblygu, ac wedi symud tuag at gerddoriaeth roc, sy'n dra gwahanol. Mae o i gyd yn ymwneud a'r rhythm. Mae rhai yn honni mai'r Rolling Stones yw'r band roc a rôl gorau erioed - ond nid ydynt wir yn chwarae roc a rôl.

Mi wnes i weithio mewn gŵyl yn y Weriniaeth Siec ac roedd yna fandiau gwych o Rwsia, Sbaen a Phrydain gydag aelodau ifanc iawn yn chwarae roc a rôl ffantastig. Hefyd, pan es i weld cynhyrchiad o Grease yn Ysgol uwchradd Caergybi yn ddiweddar, gwelais boster yn dweud, 'Pwy sydd am ymuno a band roc a rôl'. Roedd yn grêt gweld y plant yn defnyddio'r hen derm - 'sgwn i os mai miwsig o'r 50au y byddent yn ei chwarae?

Mike a'i wraig Hazel yn eu gwisgoedd jeifio Ond mae o'n sicr yn boblogaidd gyda phobl ifanc - dwi wedi bod mewn gig lle mae tair cenhedlaeth o'r un teulu wedi dod, i gyd wedi gwisgo mewn siwt teddy boy!

Mae'n dueddiad i wisgo siwtio lliwgar erbyn hyn - dylanwad y 70au a bandiau fel Showaddywaddy. Mae fy nghyfaill yn bygwth dod i fy noson jeif mewn siaced binc, ond mi gaiff o lond clust o chwerthin gen i os ddaw o fel 'na!

Nid oes rhaid i chi fod wedi jeifio llawer y gorffennol i fwynhau'r noson efo ni. Dwi'n gobeithio bydd un jeifiwr profiadol yn dod ac yn fodlon rhoi gwersi i bawb arall, ond yn y bôn rydych yn rhydd i wneud beth bynnag 'da chi eisiau wrth ddawnsio'r jeif. Jest dewch, a mwynhewch.



Cerddoriaeth
Radio Cymru
Lluniau


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy