 Mi wnes i gychwyn dawnsio pan roeddwn yn 11 mlwydd oed, mewn ysgol ddawns a drama yn Llandudno. Yna es i astudio dawns yn llawn amser yn Lerpwl.
Roeddwn yn lwcus cael lot o waith tra roeddwn yn astudio yn y coleg. Roedd yn bwysig cael blas o'r byd tu allan, ac ar ôl gadael y coleg roedd gen i'r hyder i fynd i'r holl ragbrofion a chyfweliadau a rhoi cynigion am brosiectau at ei gilydd. Mae'n rhaid gwneud lot o hyn yn y byd dawns. Er hynny, roedd yn rhaid i mi gael gwaith arall, tu allan i'r byd dawns, am y flwyddyn gyntaf wrth i mi sefydlu fy hun yn broffesiynol. Ond rŵan dwi efo gwaith saith niwrnod yr wythnos!
Tra roeddwn yn fyfyriwr mi wnes i hefyd gymeryd amser i weithio efo prosiect theatr Cynefin a dwi dal i fwynhau cyfrannu i'r prosiect labrinth yn y goedwig. Yma, rydym yn rhoi cyfle i'r cyhoedd ymuno mewn dawns, drama a cherddoriaeth o fewn drysfa (maze) - er does neb yn mynd ar goll ynddo go iawn!
Dwi dal yn byw yn Lerpwl, er dwi'n gweithio ledled Cymru a Lloegr - mae'n rhaid i chi fod yn hapus i deithio os ydych am wneud y gorau o'r cyfleoedd yn y byd dawnsio.
Dwi'n canolbwyntio ar ddawns gyfoes, yn hytrach na disgo. Mae'r math yma o ddawns yn wir fel ballet modern. 'Dydy o ddim mor gaeth a ballet - mae yna fwy o ryddid i greu symudiadau newydd. Dwi'n gwneud lot o performance art. Dwi hefyd yn dysgu efo Dawns i Bawb ac mae'n grêt. Dwi'n gwneud lot o waith gyda phlant ysgol gynradd sy'n ffantastig - lot o hŵyl. Ond fe hoffwn i hefyd ddysgu mwy o teenagers yn yr ardal. Mae'r rhai dwi efo rŵan yn hoff iawn o wneud dawnsio disco; pob wythnos mi fyddaf yn dysgu techneg newydd iddynt ac mi fyddent yn creu rŵtin dawns, fel rydych yn gweld mewn fideo pop. Ond fe hoffwn i hefyd wneud bach mwy o waith seriws efo nhw; archwilio dawns gyfoes a performance art, heb ddychryn nhw ormod! Mae rhai yn meddwl fod y math yna o ddawns braidd yn lyfi-dyfi, ond mae o'n greadigol iawn ac yn lot fawr o hwyl. Mae'n grêt bod yn rhan o Ddawns i Bawb achos dwi'n cael hyfforddiant mewn pethau fel hiphop a dawnsio brêc a hefyd yn dod i adnabod perfformwyr eraill yn yr ardal - ac mae yna lot ohonom!
 |