Mae'r grŵp dawns yma wedi bod yn dawnsio ers yr Ŵyl Gerdd Dant yn Nyffryn Conwy. Mae'r rhan fwyaf ohonom yn athrawon ac felly yn mynd yn ôl i'n hysgolion i greu timau dawnsio i gystadlu yn yr eisteddfodau a thwmpathau dawns leol.
Rydym yn perfformio amrywiaeth o ddawnsfeydd. Dwi'n fwyaf hoff o ddawnsfeydd y Ffair, fel Ceiliog y Rhedyn; maen nhw'n fwy byrlymog ac egniol gan mai pobl gyffredin fyddai yn eu perfformio ar ddiwrnod mawr y ffair. Mae dawnsfeydd llys yn fwy sidêt ac ara-deg, gan mai'r bonedd byddai'n perfformio'r rhain. Ond mae'n bwysig cael amrywiaeth mewn rhaglen.
Mae croeso i unrhyw un ddod i ymuno efo ni, gan fod o'n ffordd wych o gadw'n ffit. Rydym yn ymarfer ar Nos Iau, rhwng 4-6 yn Ysgol Glan Conwy. A beth am drio dawns y glocsen? Dyma sylwadau Kyra Hamilton
Mi wnes i gychwyn gwneud dawns y clocsan pan roeddwn yn 11 mlwydd oed. Mae'n eithaf anodd, ond ar ôl cael y rhythm mae'n dod i chi'n ddigon cyflym. Mae o hefyd yn brifo eich traed chi nes i chi ddod i arfer gyda'r holl neidio a stampio!
Fi a fy chwaer yw'r rhai ieuengaf yn Dawnswyr Sir Conwy a dwi'n mynd i Ysgol Dyffryn Conwy a dwi a fy chwaer wedi cychwyn grŵp clocsio sydd ar agor i unrhyw un yn yr ysgol sydd efo diddordeb. Dwi'n prynu fy nghlocsiau ym Mhwllheli, gan Trefor Owen ond yn benthyg fy nillad gan Ddawnswyr Sir Conwy.
 |