 |  |  | Dawnsio bol Beth am gadw'n heini mewn ffordd fwy egsotig? Does dim rhaid i chi ddangos eich bol wrth ymarfer, ac mae'n lot o hwyl, yn ôl yr athrawes dawnsio bol, Marian Jones o Gricieth. |  |  |
 | Mae hi wedi bod wrthi am dros ddeng mlynedd ac yn hoff iawn o'r cyfle i berfformio a gwisgo'r sgerti llaes a'r belt sy'n janglo. Ond mae hi hefyd yn frwdfrydig i ddysgu'r math arbennig yma o ddawns i'r rhai sydd am gadw'n ffit a mwynhau, pob nos Lun yng Nghricieth.
Dyma Marian yn dysgu Rebecca Jones o Radio Cymru sut i wneud yr hip drop, a llawer mwy am ddawnsio bol.
Gwrandewch yma.
 |  |  |  |
|
|
|