BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Cricieth
Ellis Edwyn GruffyddCromlech Cefn Isa'
Mae Ellis Edwyn Gruffydd o Roslan wedi ffermio yn yr ardal ar hyd ei oes ar fferm ag iddi olion cynhanesyddol difyr.
"Dwi wedi fy magu ar fferm Cefn Isa, rhwng Criccieth a Rhoslan, erioed, lle sydd wedi ei anfarwoli gan R Williams Parry: 'Hen, hen yw murmur llawer man, sydd rhwng dwy afon yn Rhoslan.'

"Mae milltir o afon Dwyfor yn rhedeg drwy dir y fferm ac mae cromlech arni hefyd. Dwi ddim yn siŵr o'i hanes heblaw mai yno mae hi ac yno y bydd hi fyth - eith neb â hi o 'no!

"Mae 'na un arall ger fferm Ystum Cegid hefyd .'Cegid' ydy be sy'n tyfu mewn afonydd, 'moran wen' ydy'r enw arall arno fo - mae'n wenwyn pur - a'r 'ystum' ydy'r tro yn afon Dwyfor.

"Does neb wedi bod yn cloddio yn y cromlechi yma, fasa neb byth yn gwneud. Bedd ydy'r gromlech ac mae angen parchu'r lle; bedd i ryw hen frenin yn mynd yn ôl cyn Crist mae'n siŵr.

"Fferm 300 erw ydy Cefn Isa, yn cadw gwartheg magu yn bennaf. Rydw i wedi rhoi'r gorau iddi hi rŵan - rydw i'n 70 - ac mae fy nai, hogyn fy mrawd, yn cymryd drosodd. Mae ffermio wedi newid dros y blynyddoedd, ers ro'n i'n hogyn. Rydan ni wedi adeiladu dipyn a newid o ffermio gwartheg godro i wartheg bîff a defaid. Rydan ni hefyd yn cadw ymwelwyr rŵan er mwyn helpu dipyn efo'r ffermio.

"Mae 'na yn sicr ddyfodol i ffermio yn yr ardal ond un peth y baswn i'n licio ei ddweud ydy y dylia'r cyngor 'stwytho rheolau cynllunio yn yr ardal. Mi fethais i a chael caniatâd i godi tŷ i fy nai a'i wraig ar y tir, ac maen nhw wedi gorfod prynu ym Mhorthmadog rŵan, dyna sy'n gyrru prisiau i fyny."


Cyfrannwch

Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.


Lleol i Mi
Radio Cymru
Adolygiadau


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy