| Sefydlwyd Cymdeithas Jackdaws Conwy yn 1976. Mae'n rhaid ichi fod wedi eich geni o fewn waliau'r dref i fod yn aelod, ond oherwydd fod pawb yn cael eu geni mewn ysbytai erbyn hyn mae'r niferoedd yn gostwng. Maen nhw'n galw pobl Conwy yn Jac-dos am fod yr adar yma yn nythu yn waliau'r dref - fel y gwylanod yn Llandudno! Dwi'n falch iawn o fod yn Jac-do. Cefais fy ngeni yn 1926 a 'dwi wedi byw yng Nghonwy erioed, heblaw am bedair blynedd pan roeddwn yn y Llynges Frenhinol. Mi wnes i weithio i'r cyngor lleol am 42 mlynedd, ond 'dwi wedi ymddeol erbyn hyn - ac yn chwarae lot o golff! Ers talwm, roedd 'na stemar yn mynd o Gonwy i fyny'r afon i Drefriw. 'Dwi ddim yn meddwl y byddai cwch o'r fath yn gallu mynd heibio'r bont erbyn hyn oherwydd yr holl silt a'r tywod. Roedd fy nhaid yn gweithio ar y stemar - roedd yn galw ei hyn yn engineer ond stôcar oedd o go iawn. Roedd pawb yn ei 'nabod o fel Huw Black am ei fod yn llwch glo drosto drwy'r amser! Fi oedd y clerc oedd yn delio efo'r tocynnau a'r gwaith papur ar gyfer yr hen bont yng Nghonwy. Dwi'n cofio tagfeydd traffig ofnadwy ar y bont ac roedd yn rhaid talu chwecheiniog i'w chroesi. Mi wnaethon nhw adeiladu'r bont newydd yn 1957, er eich bod yn dal yn gallu croesi'r hen bont ar droed ond dydy hi ddim yn edrych yn neis iawn ac rydych chi'n gallu gweld ychydig gormod o'r afon trwy'r pren yn fy marn i! Mae Conwy yn boblogaidd iawn rŵan ar ôl iddyn nhw adeiladu'r twnnel newydd. Dwi'n cofio fy ŵyr bach yn dweud pan agorwyd y twnnel: 'Taid, mae fel diwrnod 'Dolig ar strydoedd Conwy rŵan!' Roedd y tagfeydd yn ofnadwy cyn hynny. Roeddwn i'n byw ar ochr Morfa'r dre ac roedd yn cymryd hanner yr amser i mi gerdded mewn ag oedd hi i fynd â char.
Mae Conwy yn lle braf. Mae ganddon ni'r castell, Tŷ Aberconwy (y tŷ hynaf o'i fath yn y wlad), Plas Mawr a'r tŷ lleiaf ym Mhrydain. Ond, er mod i wedi byw yng Nghonwy erioed dwi 'rioed wedi bod i Dŷ Aberconwy a 'mond wedi bod i'r castell unwaith! Y cyngor oedd pia'r castell ers talwm ond roedd mewn cyflwr difrifol am nad oedd ganddyn nhw ddigon o arian i edrych ar ei ôl yn iawn. Diolch byth, mi ddaru CADW gymryd drosodd yn 1948 neu mi fyddai golwg ofnadwy arno fo erbyn hyn. Mae'r castell yn rhoi Conwy ar y map. 'Does dim golygfa well na gweld y castell wedi ei oleuo wrth yrru o Landudno. Ond, mi ddaru Americanwr ofyn unwaith pam eu bod wedi adeiladu castell mor agos i'r rheilffordd!"
 |