Bydd y dathliadau yn dechrau ar Awst 9, diwrnod pen-blwydd genedigaeth Telford, pan fydd aelodau o Deyrnged Teithiol Sefydliad y Peirianwyr Siartredig yn cael eu cludo mewn hen fws o'r 1920au at Bont Grog Conwy, lle byddant yn dadorchuddio plac coffa.
Dilynir hyn gan barêd o hen geir drwy'r dref. Ar Ddydd Sadwrn Awst 11, bydd y bont ar agor tan 9pm, gyda mynediad am ddim ar ôl 6pm. Mae'r digwyddiad yn cyd-daro â Gŵyl Afon y dref sy'n cynnwys ras cychod hwylio 250 Telford, parêd llusernau a stondinau o gwmpas y cei, ac a fydd yn diweddu gydag arddangosfa tân gwyllt dros y castell gerllaw.
Bydd teithiau tywysedig a sgyrsiau am ddim hefyd ar bob dydd Sul drwy gydol mis Awst ar y bont.
Yn ystod ei fywyd, adeiladodd Thomas Telford dros fil o filltiroedd o ffyrdd, yn cynnwys y brif ffordd o Lundain i Gaergybi. Pan oedd yn gweithio ar y prosiect uchelgeisiol hwn, cafodd ei wahodd i godi pont dros foryd Conwy.
Cynllun gwreiddiol Telford oedd adeiladu pont o haearn bwrw ond newidiodd ei feddwl a phenderfynu creu yr hyn oedd, bryd hynny, yn gynllun llawer mwy arloesol.
Cafodd y bont ei chwblhau ym 1826 a daeth yn gyswllt hanfodol rhwng y dwyrain a'r gorllewin, drwy sicrhau taith gyflymach a mwy diogel ar draws moryd Conwy, a rhoi mynediad haws at y fferi ar draws Môr Iwerddon.
Saif y strwythur nodedig hwn wrth ochr Castell Conwy, safle treftadaeth byd. Bu'n rhaid chwalu rhan o'r castell mewn gwirionedd wrth godi'r bont er mwyn medru angori'r crograffau wrth y creigiau. Cynlluniodd Telford dyrau cynhaliol y bont i gydweddu â thyredau'r castell, dull a oedd yn debyg i un o'u bontydd enwog eraill, Pont Grog Menai.
Erbyn heddiw, mae'r bont yng ngofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac, am mai 2.5 medr o led yn unig ydyw hi, dim ond ar gerdded y gellir ei chroesi.
Yn ôl David Jennings, ceidwad y bont, mae Conwy yn ymfalchïo yn ei chysylltiadau â'r peiriannydd enwog.
"Mae Thomas Telford yn un o'r peirianwyr pwysicaf a welodd y byd erioed, ac mae'r ffaith fod enghreifftiau mor gain o'i waith i'w gweld yng Nghymru, yn bendant yn werth ei ddathlu".