Mae gogledd orllewin Cymru yn dod o fewn ardal dennis Gogledd Cymru. Mae gan gymdeithas Tennis Gogledd Cymru swyddog datblygu sy'n gweithio gyda chynghorau Ynys Môn, Conwy a Gwynedd i helpu i hybu'r gêm yn yr ardal. Mae deg clwb yn y gogledd orllewin lle gallwch chi fynd i chwarae ac mae dau ohonyn nhw yn ganolfannau tennis arbenigol gyda chyrtiau dan do (felly does dim esgus dros beidio ag ymarfer yn ystod y gaeafau gwlyb ac oer!) Dechrau'n ifanc Pam Alford o Gymdeithas Tennis Gogledd Cymru: "Mae cyrtiau dan do Caernarfon a Bae Colwyn yn llefydd gwych i gyflwyno plant i'r gêm yn ifanc - maen nhw'n gallu dechrau mor ifanc â chwe mlwydd oed. "Mae'r gynghrair iau yn cael ei rhedeg gan y Gymdeithas Tennis Lawnt (LTA). Mae chwaraewyr ifanc yn cystadlu ar benwythnosau rhwng mis Mawrth a mis Awst mewn amrywiol gategorïau dan 18 oed. Mae enillwyr cynghrair gogledd Cymru yn mynd ymlaen i rownd derfynol y rhanbarthau ac, os yn llwyddiannus, i'r rowndiau terfynol cenedlaethol. "Mae gan bob sir swyddog datblygu sy'n annog pobl i chwarae yn yr ysgol gan drefnu hyfforddiant a chystadlaethau." Tennis hŷn Mae'r brif gynghrair, a gaiff ei rhedeg gan Tennis Cymru, yn cael ei chynnal o'r Pasg hyd at fis Awst bob blwyddyn. Efallai y bydd cynghrair penwythnos yn cael ei sefydlu yn 2005, ond ar hyn o bryd mae chwaraewyr o'r gwahanol glybiau yn chwarae yn erbyn ei gilydd bob dydd Mercher am 6:30pm. Mae dwy adran ar gyfer dynion ac un ar gyfer merched. Mae pencampwriaethau yn cael eu trefnu gan Tennis Cymru a'r Gymdeithas Tennis Lawnt ( LTA), felly cadwch lygad ar eu gwefannau i gael y wybodaeth ddiweddaraf (dolenni ar y dde). Mae cost ymaelodi yn dibynnu ar y math o gyfleusterau sydd ar gael yn y clwb. Mae prisiau oedolion yn amrywio rhwng £30 a £100 y flwyddyn, gyda gostyngiadau i blant. Felly, does dim rhaid ichi fod mor dda â Federer, Andy Roddick neu'r chwiorydd Williams i fwynhau gêm o dennis - mi all unrhyw un roi tro arni, ar unrhyw lefel.
 |