"Rwyf yn rhwyfo i dîm clwb rhwyfo Porthllechog - enw ein tîm yw 'Y Gogs Bach'. Rwyf wedi bod yn rhwyfo hyd at bedair blynedd erbyn hyn - er mai hwyl oedd popeth ar y cychwyn, erbyn hyn mae'n faes mwy difrifol.
"Roedd fy nhad yn rhwyfo - efallai ei fod o yn y gwaed! Ond mae'n rhaid dweud fy mod i yn ei fwynhau yn fawr iawn. Yn sicr mae'n ddiddordeb sydd yn eich cadw yn iach iawn.
"Mae 'na bedair ohonom yn ein cwch, gydag un arall yn llywio. Mae gan bob un ohonom sêt ac ochr arbennig i'r cwch, er ein bod yn cael ein dysgu i rwyfo ar y ddwy ochr, dde a chwith. Fy hoff sêt i yw rhif pedwar. Yn y sêt yma, chi sydd yn arwain y cwch. Fanno, rydych yn gyfrifol am rythm a chyflymder y cwch.
"Rydym yn rhwyfo mewn cychod o'r enw 'Celtic long boats' - dau gwch fel hyn sydd gennym ac maent yn costio llawer felly mae rhaid i ni fod yn ofalus iawn efo nhw!
"Rydym yn cyfarfod bob bore dydd Sul ym Mhorthllechog am ddeg o'r gloch os ydi'r tywydd yn sych. Rydym yn ymarfer ar y môr ac rydym fel arfer yn rhwyfo draw at Laneilian neu Gemaes - mae hynny yn dipyn o filltiroedd!
"Rydym wedi hen arfer rhwyfo dros ogledd orllewin Cymru i Aberdaron, Porthmadog, Porthllechog, Pwllheli, Y Bermo, Aberdyfi a mwy. Rydym hefyd yn cyfarfod yn Aberystwyth, Abergwaun ac Aberdyfi er mwyn cael cynnal cystadlaethau rhwng timau o'r gogledd a'r de. Unwaith y flwyddyn bydd cystadleuaeth yn Llundain yn cael ei gynnal lle bydd llawer o glybiau o ar draws Cymru a Lloegr yn cyfarfod ac yn cystadlu. Y flwyddyn ddiwethaf, enillodd tîm hogia ifanc o'n clwb ni'r ras!
"Rydym wedi ennill llawer o gystadlaethau dros y pedair blynedd diwethaf ac yn gobeithio yr awn ymlaen i ennill mwy!" Mwy am Rwyfo yn y gogledd orllewin
 |