BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Chwaraeon

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

PelfasgedPêl-fasged
Does dim rhaid ichi fod yn Americanwr i chwarae pêl-fasged! Dysgwch am y gêm sy'n prysur ennill tir yn Ewrop, a Chymru erbyn hyn. Cofiwch gysylltu gyda newyddion a chanlyniadau eich tîm chi.

James Morgan o Gymdeithas Pêl-fasged Gogledd Cymru sy'n egluro'r rheolau:

"Mae pum chwaraewr ar y cwrt ar unrhyw adeg, er bod 12 yn gallu bod yn aelod o'r tîm. Mae gêm wedi ei rhannu yn bedair chwarter sy'n para deg munud yr un.

"Os hoffech chi chwarae, ffoniwch eich canolfan chwaraeon leol a gofyn os ydyn nhw'n cynnal sesiynau pêl-fasged, neu ewch i wefan Cymdeithas Pêl-fasged Gogledd Cymru, sy'n rhoi gwybod ichi lle mae'r holl gemau'n cael eu chwarae (gweler dolen i'r wefan ar y llaw dde).

"Mae'n gêm wych i'w chwarae ac mae'n ennill tir yn Ewrop rŵan. Y gynghrair agosaf ar gyfer timau gogledd Cymru ydy yn Wrecsam ac mae timau o bob man yn chwarae yno."

Alan Banastar o Ynys Môn sy'n sôn am y sîn pêl-fasged fywiog sydd ar yr ynys:

"Rydw i'n helpu i redeg Cymdeithas Bêl-fasged Ynys Môn ac mae ganddon ni lawer o dimau ar yr ynys, gan gynnwys timau dan 18 Celtiaid Caergybi, Rhyfelwyr Llangefni, Cathod Gwyllt Amlwch a Dewiniaid Porthaethwy. Mae gan Gaergybi ac Amlwch dimau dan 12 hefyd yn ogystal â thimau Cobras Bodorgan a Dreigiau Llangoch.

"Mae ganddon ni hefyd dîm Môn Magic, sy'n cynnwys timau bechgyn a merched dan 16 oed ac sy'n chwarae yn erbyn timau eraill yng ngogledd Cymru ac yn Lloegr. Mae ein tîm o ferched yn bencampwyr Cymru, ac mae ganddon ni 12 o chwaraewyr sydd i gyd yn chwarae dros Gymru mewn gwahanol ddosbarthiadau oedran.

"Rydw i wedi helpu i sefydlu clwb ym Mae Cinmel ac yn gweithio gydag Ysgol Friars a chriw o Faesgeirchen er mwyn ffurfio tîm ym Mangor. Mae'n bwysig ein bod yn gwneud hynny achos does na ddim llawer o dimau iau rhwng Ynys Môn a'r Rhyl.

"Fedren ni ddim bod wedi gwneud hyn heb gymorth gwirfoddolwyr sy'n rhoi help llaw i oruchwylio yn y gemau, trefnu'r cit a gofalu am y trefniadau teithio i gemau. Os oes gan unrhyw un ddiddordeb mewn helpu, gadewch imi wybod.

"Mae chwaraewyr hŷn yr ardal yn gallu mynd ymlaen i chwarae i Brifysgol Bangor, gan nad oes raid ichi fod yn fyfyriwr yno i chwarae i'r tîm na chymryd rhan yn y sesiynau hyfforddi."



Ar y Marc
Natur
Straeon Digidol


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy