BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Chwaraeon

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Pwll nofio Nofio
Os ydych chi'n meddwl mentro i'r pwll am y tro cyntaf neu eisiau mynd â'ch nofio gam ymhellach, dyma wybodaeth am ddosbarthiadau a phyllau lleol fydd o fudd i chi. Cofiwch anfon straeon a lluniau o'ch clwb aton ni.

Mae'n rhaid i bob awdurdod lleol gynnig dosbarthiadau nofio lleol i bobl o bob oed a gallu. Fel arfer, mae gwersi i blant yn costio £20 - £30 y tymor a gwersi i oedolion rhwng £30 - £50 am nifer penodol o wythnosau.

Mae gwersi yn llawer rhatach os ydych chi'n dod yn aelod yn eich pwll lleol, sy'n costio tua £5 y flwyddyn. Yn aml mae rhestr aros ar gyfer ymaelodi, felly rhowch eich enw i lawr mewn da bryd - yn enwedig ar gyfer plant.

Os mai dim ond am fynd am nofiad bob hyn a hyn ydych chi yna bydd ymweliad â'ch pwll lleol yn costio tua £2.50 y tro, ychydig mwy os ydych chi eisiau ymuno â dosbarth mam a phlentyn (dydy hi byth yn rhy gynnar i ddechrau!)

Os ydych chi eisiau datblygu ymhellach ym maes nofio, yna ymunwch â chlwb nofio.

Mae cost hyfforddiant yn dibynnu pa mor bell ydych chi eisiau mynd efo'r gamp. Po fwyaf o oriau rydych chi'n eu treulio'n hyfforddi, po fwyaf fydd y gost - ond bydd yn mynd yn fwy cost-effeithiol.

Dechreuodd cysylltiad Sue Parry o Abergele â'i chlwb nofio lleol drwy ei phlant.

"Rydyn ni'n griw o naw o ferched ac i gyd yn wirfoddolwyr. Fel arfer rydyn ni'n recriwtio gwirfoddolwyr o blith y rhieni! Fe ddechreuais i oherwydd fod gen i amser ar fy nwylo. Pan ymunodd fy mab â'r clwb doedd dim pwynt gyrru nôl ac ymlaen yn ystod sesiwn, felly fe benderfynais helpu ac mi ddes yn ysgrifennydd y clwb a rŵan rydw i'n un o hyfforddwyr y Gymdeithas Nofio Amatur (ASA). Os oes gan unrhyw un ddiddordeb mewn dod yn hyfforddwr, mi allwn ni wneud cais am grant Cist y Gymuned. Fe gafodd ein clwb ni grant Buddsoddwyr mewn Pobl am y gwaith rydyn ni'n ei wneud gyda'r nofwyr a'r staff hyfforddi - y clwb cyntaf o'i fath i gael un.

"Mae pobl ifanc yn ymaelodi â chlwb nofio ar ôl cyrraedd safon arbennig. Mae ein clwb ni'n cynnal sesiynau hyfforddi chwe diwrnod yr wythnos, yn y bore a min nos. Mae nifer yr oriau yn dibynnu ar allu, oedran ac a ydyn nhw'n fechgyn neu'n ferched. Y mwyaf fydd unrhyw nofiwr ei dreulio yn hyfforddi ydy am 20 awr yr wythnos.

"Mae ein nofwyr yn cymryd rhan mewn galas ar bob lefel, o gystadlu yn erbyn dechreuwyr mewn clybiau eraill i bencampwriaethau i bob grŵp oedran yng ngogledd Cymru, Cymru a Phrydain.

"Mae ganddon ni gysylltiadau da gyda Nick Gillingham sydd wedi ennill medal arian yn y Gemau Olympaidd ac sydd hefyd wedi dal record y byd am nofio broga dros 200m. Mae'n dod i roi sesiwn hyfforddi bob blwyddyn ac yn help mawr i fy mab Robert, sydd wedi nofio ym Mhencampwriaeth Prydain ac a gafodd ei enwebu yn chwaraewr ifanc Conwy 2004.

"Rydw i'n mwynhau gwirfoddoli gyda'r clwb oherwydd mae'n gwneud imi sylweddoli bod modd gwthio'r corff dynol i'r eithaf.

"Ond gwylio'r plant yn gwella a datblygu ydy'r pleser mwyaf. Rydw i'n cofio Robert yn cael trafferth i nofio dau hyd y pwll i ddechrau a rŵan mae'n nofio 45,000 metr yr wythnos! Rydw i'n wirioneddol fwynhau'r elfen addysgiadol."



Chwaraeon
Natur
Straeon Digidol


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy