BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Chwaraeon

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Cwch hwylio ar y môrHwylio
Gogledd orllewin Cymru ydy un o'r ardaloedd gorau ar gyfer hwylio yng Nghymru, os nad ym Mhrydain. Felly cyn ichi fentro i'r dŵr, dyma ychydig o gyngor.
Mae llawer o gychod gwahanol i ddewis ohonyn nhw, gan gynnwys rhai ar gyfer un, dau neu ragor o hwylwyr.

Y dosbarthiadau mwyaf poblogaidd ar gyfer plant o dan 16 oed yw'r topper a'r optimist (cliciwch ar y dolennau ar y llaw dde am ragor o wybodaeth am y cychod hyn), dau fath o gwch ar gyfer pobl ifanc. Dyma arbenigedd tîm hyfforddi hwylio Cymru ac mae dros 80% o'r hwylwyr yn y Gemau Olympaidd wedi cychwyn eu gyrfa hwylio ar yr optimist.

Ymhlith y dosbarthiadau i bobl ifanc rhwng 16 a 19 oed mae'r 420 a'r 29er ar gyfer dau berson a'r laser ar gyfer unigolion - cliciwch ar y dolennau ar y llaw dde i gael mwy o wybodaeth am mathau yma o gychod.

John Griffiths, swyddog gweinyddu Clwb Hwylio Pwllheli sy'n sôn wrthon ni am hwylio yn yr ardal hon.

"Mae clybiau unigol yn cynnal regata bob blwyddyn ac yn gwahodd hwylwyr o glybiau eraill i ddod i gystadlu. Mae clybiau fel Pwllheli ac Abersoch yn cynnal pencampwriaethau cenedlaethol gan fod yr ardal yn boblogaidd iawn gyda gwahanol fathau o hwylio.

"Mae'n chwaraeon sy'n tyfu er ei fod, wrth gwrs, yn cystadlu gyda'r holl fathau eraill o chwaraeon sydd ar gael - 'doedd pobl ifanc ddim yn chwarae golff pan oeddwn i'n ifanc na merched yn chwarae pêl-droed chwaith! Ond mae'n gweithio'r ffordd arall hefyd ac mae rhieni yn defnyddio clybiau chwaraeon fel creche i ofalu am y plant tra maen nhw'n mynd i siopa - ac maen nhw'n cael amser da.

"Rydyn ni'n cynnal diwrnodau agored drwy'r flwyddyn i roi blas ar hwylio i bobl cyn iddyn nhw benderfynu dod yn aelodau llawn o'r clwb ai peidio. Dim ond aelodau sy'n cael defnyddio cyfleusterau'r clwb.

"Hefyd mae ganddon ni glwb i blant unwaith y flwyddyn sy'n rhoi cyfle i blant o ysgolion lleol ddod i roi tro ar hwylio. Os ydyn nhw'n mwynhau mi wnawn nhw gario 'mlaen, fel arfer am fod gan eu rhieni brofiad o hwylio.

"Rydyn ni'n ymwybodol nad ydy hwylio fel mynd allan ar gae pêl-droed a chicio pêl. Mae iechyd a diogelwch yn bwysig dros ben inni achos fedrwch chi ddim fforddio cael damweiniau ar y môr, felly mae goruchwyliaeth yn hanfodol.

"Mae hwylio yn chwaraeon 'eithafol', yn enwedig mewn tywydd drwg! Mae'r adrenalin yn pwmpio ac rydych chi'n cael buzz go iawn ohono."

Mae Tim Hall, hyfforddwr tîm ieuenctid Cymru, yn gweithio ym Mhlas Menai, y ganolfan chwaraeon dŵr cenedlaethol.

"Mae ymaelodi â'r clwb hwylio yn costio tua £50/£60 y flwyddyn fel arfer a thua £20/£30 i rai iau.

"Mae pobl ifanc yr ardal yma fel arfer yn mynd drwy'r system glybiau i gyrraedd Sgwad Rhanbarthol Gogledd Cymru, sy'n cael ei hyfforddi gan Ruth Ilisse (gellir cael gafael arni drwy gysylltu â Chymdeithas Hwylio Cymru - Welsh Yachting Association). Mae'r sgwad yn hyfforddi drwy'r gaeaf ac yn cymryd rhan mewn cyfres o ddigwyddiadau drwy'r haf sy'n cael eu cynnal gan wahanol glybiau. Maen nhw'n elwa o gael eu hyfforddi ym Mhlas Menai, canolfan hwylio genedlaethol Cymru - mae hynny'n fantais fawr iddyn nhw.

"Mae'r rhai gorau wedyn yn gwneud cais i gael eu dewis i sgwad Cymru, sy'n cael ei hyfforddi gen i. Mae'r hwylwyr ifanc hynny yn cael eu hyfforddi drwy'r flwyddyn ac yn mynychu cyrsiau gwyddoniaeth chwaraeon a chael hyfforddiant pellach. Ein nod ydy datblygu hwylwyr ar gyfer timau Prydain ac ar gyfer y Gemau Olympaidd.

"Rydyn ni wedi cael ambell lwyddiant. Enillodd Eifion Môn o Draeth Coch bencampwriaeth byd y dosbarth Topper yn 2004.

"Mae gan y gogledd orllewin arfordir gwych ar gyfer hwylio a Phwllheli ydy'r lle gorau ar gyfer y chwaraeon yng Nghymru, os nad ym Mhrydain.

"Mae canolfan Plas Menai yn fantais ychwanegol, sy'n cynnal cyrsiau agored drwy'r flwyddyn, fel arfer dros wythnos neu benwythnos.

"Does dim i rwystro pobl anabl rhag hwylio. Mae'r rhai gorau yn mynd ymlaen i gynrychioli Prydain yn y Paralympau a does dim rheswm pam na all unrhyw un ag unrhyw fath o anabledd gymryd rhan. Mae'n chwaraeon gwych."



Chwaraeon
Natur
Straeon Digidol


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy