"Mi wnes i a fy ngŵr, Clive, gychwyn chwarae ar ôl mynd ar ein gwyliau i Scarborough. Ddaru o ennill y twrnamaint yno a hanner awr ar ôl cyrraedd adref i Lanfairfechan, roeddem allan yn chwilio am lecyn gwastad o dir i gael gêm.
Wnaethon ni ddim ond cael y tir yn y diwedd oherwydd yr A55. Mi wnaethon nhw dynnu'r hen stesion i lawr ac adeiladu'r stesion fach sydd yno rŵan, gan adael darn bach o dir siâp teisan. Ar ôl nifer fawr o lythyrau at y cyngor, mi gawson ni ganiatâd i greu lle i chwarae croce yno. Bu farw fy ngŵr ddeng mlynedd yn ôl, ond mae'r clwb yn dal yma hyd heddiw.
Mae'r clwb yn ail-agor ddydd Sul y Pasg bob blwyddyn. Os ydy'r tywydd yn ddigon dda, byddwn yn cael gêm tu allan - os nad ydy o, byddwn yn cael hot cross bun a phaned! Rydyn ni'n chwarae tan i'r tywydd waethygu yn yr hydref.
Da ni'n llogi ystafell yn Horeb bob p'nawn Gwener i chwarae tu fewn gan fod ganddon ni fat croce. Mae croeso i eraill chwarae ar y lawnt - mae'n costio £2 am ddwy awr ac mae'r Brownies, y WI a'r Rotary yn dod yn gyson.
Mae yna ryw agwedd fod croce yn rhywbeth refined ac unwaith, daeth Rupert Moon yma i recordio rhaglen yn gwisgo het wellt, siaced streipiog a thrywsus gwyn! Mi roeddwn i yn fy nghrinolins, yn dod â cucumber sandwiches iddo! Ond dydan ni ddim yn gwisgo fel 'na drwy'r amser!
Maen nhw'n dweud wrtha' i fod croce ddigon tebyg i snwcer. Mae yna beli lliwiau gwahanol, a nod y gêm yw taro'r peli trwy'r chwe hŵp. Rhaid yn gyntaf taro'r bêl drwy'r pedwar hŵp ar y corneli, ac yna gorffen gyda'r rhai yn y canol.
Mae yna ffyrdd gwahanol o chwarae'r gêm - da ni'n chwarae dau fersiwn yn ein clwb ni. Golff croce yw'r un hawsaf, yn enwedig ar gyfer dechreuwyr.
Mae'r rhai mwyaf dedicated yn y clwb yn chwarae yng nghynghrair gogledd orllewin Lloegr. Cawson ni ganiatâd arbennig i chwarae ynddo gan mai'r tîm agosaf aton ni yng Nghymru yw Caerdydd. Felly rydan ni'n chwarae yn erbyn Bury, Fylde, Caer a hyd yn oed Kendal, ond da ni'n eu cyfarfod yn y canol, yn Southport.
Hefyd, mae pawb yn y clwb yn cystadlu am y cwpanau gwahanol sydd ganddom, fel yr un er cof am fy ngŵr.