"Dyma fy gig go iawn cyntaf a dwi'n nerfus iawn - dwi ddim yn siŵr os wna i chwarae neu beidio. Falle y gwna i ei adael i'r 'pros' heno!
"Dim ond ers ychydig wythnosau ydw i wedi dechrau DJio. Mi wnes i ddechrau am fy mod rîlî yn joio miwsig. Gan nad ydw i'n chwarae offeryn, ac yn hoffi miwsig electronig, mae DJio yn ffordd wych o wneud rhywbeth fy hun.
"Dwi wedi bod yn ymarfer DJio adref, er fod y decs sydd gen i yn rhai eithaf gwael. Mae decs da yn ddrud iawn.
"Dwi wrthi'n meddwl am enw DJ. Rydw i a fy ffrind yn meddwl chwarae efo'n gilydd a galw ein hunain yn Two Fat Ladies, ond dydan ni ddim yn siŵr iawn eto.
"Electro a breakbeat dwi'n ei hoffi fwyaf - unrhyw beth electronig sy'n 'weird a wonderful'!
"Dwi'n cadw i fyny efo'r sîn trwy ddarllen am gerddoriaeth newydd, cadw llygad ar wefannau'r labeli dwi'n eu hoffi, neu wrando ar Breezeblock ar Radio 1.
"Fy hoff label yw Warp. Maen nhw'n creu stwff mwy avant garde a gwahanol. Felly dwi'n prynu beth bynnag maen nhw'n sôn amdano.
"Break 'Em yw un o'r nosweithiau dawns dwi 'di joio fwyaf rownd ffordd hyn. Roedden nhw'n arfer bod yn yr Hendre, a wedyn yn y Railway Institute, ond dwi ddim yn siŵr beth sydd wedi digwydd iddyn nhw rŵan. Mi fyse'n dda cael mwy o nosweithiau fel 'na yn yr ardal yma.
"Dwi hefyd wedi teimlo'n gryf ers amser, cyn imi ddechrau DJio, ei bod hi'n biti nad ydy DJs Cymraeg yn cael mwy o gydnabyddiaeth jest oherwydd nad ydyn nhw'n chwarae miwsig efo geiriau Cymraeg.
"Dwi ddim yn gweld pam na ddylai miwsig heb eiriau gael ei chwarae ar y radio. Pam nad ydy DJs Cymraeg yn cael setiau ar Radio Cymru? Dydy DJ ddim yn chwarae miwsig Saesneg - mae'r samplau canu sydd ar y traciau yn gallu bod mewn Ffrangeg, Rwsieg neu unrhyw iaith.
"Mi fuaswn i'n hoffi gweld lot mwy o raglenni miwsig dawns ar Radio Cymru gan ei fod yn ochr bwysig o'r sîn Gymraeg sydd ddim yn cael cydnabyddiaeth. Mae rhywun fel Elen sy'n DJio yma heno wedi chwarae ym Manceinion a Bryste ac mae'n biti nad oes neb tu allan i ddalgylch Bangor wedi clywed amdani, er ei bod hi'n Gymraes."
Dyma gyngor Elen Morgan o Fethesda sy'n cynnal ei nosweithiau drum'n'bass ei hun.
"Mi wnes i ddechrau DJio pan oeddwn i'n fyfyriwr yn Coventry. Mi wnes i gyfarfod pobl oedd yn hoffi drum'n'bass ac roedd ganddyn nhw ddecs i mi ymarfer arnynt.
"Mi benderfynais brynu decs fy hun a dechrau hel recordiau oddi ar y we. Does na'm siopau sy'n gwerthu'r math o recordiau dwi'n eu hoffi rownd fan hyn.
"Mi wnes i ddod i nabod y DJs OWB1 ac Andrew ac roedd ffrind iddynt, Gavin Owen, wedi dechrau noson yn yr Hendre a'r Railway Institute. Gan mai jest dau DJ oedd 'na, mi ddaru ofyn i mi chwarae'r awr gyntaf. Roedd o'n grêt.
"Dwi'n gogydd mewn tafarn ym Mangor yn ystod y dydd ond mi fuasai'n wych gallu DJio'n broffesiynol. Dwi'n gwneud noson fy hun yn y Railway erbyn hyn, bob ryw chwe wythnos. Cadwch lygad allan amdano.
"Mae'n anodd cychwyn. Pan 'da chi'n ceisio rhoi dwy record efo'i gilydd mae'n swnio'n ofnadwy i ddechrau ac mae'n gallu eich rhoi chi off ond mae'n werth dal ati. Beth am gychwyn efo dwy record sy'n eithaf tebyg a gweld lle da chi'n mynd efo rheina?
"Wedyn jest gwrandewch ar y bît. Mae drum'n'bass 'chydig yn wahanol i house. Mae 'na lot o wahanol synau ac felly mae'n bosib chwarae o gwmpas lot mwy rhwng un record a'r llall.
"Mae'r sîn yn tyfu yn yr ardal yma, er ei fod yn llawer mwy poblogaidd lawr yn Llundain. Ond mae 'na lot mwy o drum'n'bass o gwmpas rŵan nag oedd bum mlynedd yn ôl. "