BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Cerddoriaeth

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Bill Wyman a'r Rhythm Kings ar lwyfanYsgwyd Llandudno i'w seiliau
Mi fwynhaodd Dafydd Meirion noson 'anhygoel' yng nghwmni'r cyn Rolling Stone, Bill Wyman a'i fand y Rhythm Kings yn Llandudno:
Y neuadd yn llawn a phawb ar eu traed yn dawnsio ac yn curo eu dwylo i guriad y caneuon. Dyna'r olygfa yn Theatr Gogledd Cymru, Llandudno, nos Sul, 7 Tachwedd, wrth i Bill Wyman a'r Rhythm Kings ganu eu caneuon o'r 1950au a'r 1960au.

Gitarydd bas y Rolling Stones, wrth gwrs, yw Bill Wyman. Gadawodd y Stones yn 1993, ond wedi dwy flynedd heb fod ar lwyfan dechreuodd sawl band gyda chyfeillion iddo, a'r Rhythm Kings yw'r diweddaraf. Y noson hon yn Llandudno oedd y noson olaf ond un o'r daith olaf, meddai Wyman.

Dechreuodd y noson gyda I've Got My Mojo Working, ac o fewn dim roedd pawb yn dechrau mynd gyda'r curiad. Cafwyd I Gotta Woman, Jitterbug Boogy, I'll be Satisfied, Rollin Pete, Race with the Devil, Hit the Road Jack, Fever ...

Wyth oedd yn Rhythm Kings, yn ogystal â Wyman. Mike Sanchez wnâi'r cyflwyno a llawer o'r canu. Neidiai i fyny ac i lawr fel rhyw gyw Jerry Lee yn ei siwt wen. Y llais gorau o bell ffordd oedd un Beverley Skeete, pwten groenddu gyda llais cyfoethog, cryf. Ar y gitâr flaen roedd yr anhygoel Albert Lee; gwnâi yntau lawer o'r canu - ond ei waith gitâr ddeuai â mwyaf o bleser, gyda'i fysedd yn gwibio ar hyd gwddw ei offeryn. Does ryfedd iddo ennill gwobr Best Country Guitar Picker bum gwaith. Roedd dau sacsoffonydd anhygoel yn y band - dau roddodd sawl solo gwych, a dau oedd yn dawnsio ar y llwyfan.

Bill Wyman yn perfformio yn y Big Buzz yng NghaernarfonBeth oedd Bill Wyman yn ei wneud meddech chi? Fawr ddim, dim ond sefyll yn llonydd ger y drymiau, ei gitâr fas yn isel ar ei gorff ac yn rhoi'r argraff nad oedd o'n siŵr os oedd o eisiau bod yno ai beidio. Ond roedd ei chwarae soled, di-ffwdan, di-ymdrech, yn sail i'r holl ganeuon.

Mentrodd o flaen y meic - unwaith - a hynny i ganu You Never Can Tell, Chuck Berry, a chyfaddefodd cyn dechrau nad dyma roedd o'n hoffi ei wneud. Ond mi gafodd gymeradwyaeth frwd, er bod y canu braidd yn ddienaid.

Er yr holl dalent yn band, roedd ganddyn nhw westai arbennig - Eddie Floyd, y dyn oedd yn y siartiau yn y 1960au gyda Knock on Wood, a honno ganodd o i gloi ei ail ymddangosiad ar y noson. Wrth gyfarch y dorf ar y dechrau dywedodd ei fod yn falch o fod adref. Cafwyd distawrwydd. Onid Americanwr yw Floyd? Yna eglurodd mai o Gymru y daeth ei gyfenw. Cafwyd perfformiad gwreiddiol gyda Floyd yn ei siwt lachar, yn prancio ar y llwyfan ac yn cael pawb i guro eu dwylo yn gyfeiliant i'w ganeuon adnabyddus.

Er gwreiddiau rhythm and blues Wyman roedd y band yn chwarae sawl math o ganeuon - roc-n-rôl, wrth gwrs, rhythm and blues, blues, jazz, hyd yn oed bluegrass, a chafwyd Taxman gan Skeete fel teyrnged i George Harrison.

Roedd y band wedi bod yn chwarae am bron i ddwyawr yn ddi-dor pan ddaeth y perfformiad i ben. Roedd pawb eisoes ar eu traed - a doedden nhw ddim am eistedd. Roedd pawb yn gweiddi 'Mwy, mwy', yn curo dwylo a hyd yn oed yn curo'r llawr â'u traed nes daeth y band yn ôl. Cafwyd fersiwn wych o I Put a Spell on You gan Skeete ac yna Sanchez yn cloi'r gweithgareddau gyda Tear it Up tra'r oedd Eddie Floyd yn rhwygo papurau ac yn eu taflu tuag at rai yn dawnsio wrth droed y llwyfan.

Noson anhygoel, a phawb wedi mwynhau eu hunain. Ar y ffordd allan, yn y dderbynfa, roedd torf fawr o bobl yn prynu CDs a DVDs y band - roedd hynny ohono'i hyn yn dangos faint oedden nhw wedi gwerthfawrogi'r perfformiad - ynteu eu prynu nhw oedden nhw am fod Wyman wedi dweud na fyddai yna daith arall gan ei fod eisiau treulio rhagor o amser efo'i deulu ifanc? Byddai hynny'n sicr yn drueni.

Dafydd Meirion



Radio Cymru
Digwyddiadau
Adolygiadau


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy