 |  | Taith Llafar Diben Taith Llafar yw rhoi'r cyfle i bobl ddall fwynhau natur a hanes cefn gwlad Gogledd Cymru yng nghwmni tywyswr profiadol. Dyma farn y cerddwyr aeth ar daith o amgylch y Spinnies ger Bangor. |  |  |
 | 
 |
Paratoi am y daith gerdded
|  | 1234 |  | Fel swyddog cymunedol, dwi'n cynnal fforwm cydraddoldeb anabledd yn y parc ddwywaith y flwyddyn ac eleni, ddaru rhywun sôn am ddiffyg cyfleoedd i bobl efo nam ar y golwg i fynd am dro yn y wlad. Roeddem hefyd wedi clywed am Colin Antwis sy'n wych am ddisgrifio natur a hanes wrth fynd am dro.
Felly, gyda chymorth gan y Parc Cenedlaethol, Cyngor Cefn Gwlad, swyddog chwaraeon anabledd Cyngor Gwynedd a Chymdeithas Deillion Gogledd Cymru, ddaru ni fwrw 'mlaen i drefnu teithiau i Aber Mawddach ac Abergwyngregyn.
I gychwyn ddaru ni ddefnyddio offer gwrando, fel y maent yn ei ddefnyddio wrth gyfieithu ar y pryd. Mi fydd fersiwn MP3 o recordiad Colin Antwis ar gael cyn bo hir i chi allu mynd am dro eich hun, a gwrando ar ei ddisgrifiadau.
Ond ar y cyfan, ddaru nifer dweud bod yn well ganddynt allu cerdded, sgwrsio efo'i ffrindiau a gwrando ar y tywyswr efo'i gilydd yn lle defnyddio offer gwrando. Felly nid ydym yn defnyddio'r meics erbyn hyn ac mae pawb dal i fwynhau.
Os oes digon o ddiddordeb, mi fyddem yn parhau efo'r teithiau cerdded dros y gaeaf - wedi'r cyfan, nid oes yna lawer o wahaniaeth rhwng tywydd y tymhorau!
Carys Dafydd, swyddog cymunedol Parc Cenedlaethol Eryri |  |
 |  | Cyfrannwch i'r dudalen hon! |  | |
|
|
|