BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Awyr agored

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Cerdded
Map gwreiddiol o LanddeiniolenDewch am dro
Mae Gareth Roberts yn benderfynol bod pawb am gael y cyfle i gadw'n iach a darganfod cyfrinachau hanesyddol eu bro. Er mwyn hybu hyn mae'n creu mapiau o'r ardal yn adlewyrchu ddoe a heddiw.

Dewch ar daith o luniau Gareth.

Roeddwn yn ddifrifol wael chwe blynedd yn ôl ar ôl trawiad ar y galon. Ond drwy drugaredd a sgiliau'r meddygon, mi wellais a phenderfynais weithio i fod yn heini eto. Gweithiais fel llefarydd i Sefydliad Prydeinig y Galon yng Nghymru, yn hybu pobl i fynd allan a cherdded i gadw'n iach.

Mi wnes i hefyd ddechrau trefnu teithiau cerdded elusennol yn seiliedig ar hen lwybrau'r ardal oedd heb gael eu cerdded ers canrifoedd. Gyda chymorth yr Ymddiriedolaeth Archeolegol, mi wnes i ymchwilio'r hen ffordd Rufeinig o Gaernarfon i Gaer, a phenderfynu bod y person gyntaf i'w cherdded mewn mil o flynyddoedd! .

Oherwydd y gwaith yma, mae'r cyngor wedi gofyn i mi greu mapiau cerdded hanesyddol o Wynedd, gan gychwyn gyda phlwyf Llanddeiniolen. Dwi am wneud ychwaneg - Llanberis, Llanrug a thu hwnt. Mae'r mapiau yma yn dangos hanes yr ardal o'r cyfnod cyn y Rhufeiniaid hyd at heddiw, gan ddilyn y milltiroedd o lwybrau cyhoeddus.

Carnedd Glyn Arthur a Chaer Dinorwig. Mae Llanddeiniolen yn ardal fawr, o'r Felin i Fethel a Rhiwlas ac mae'n dew o weddillion archeolegol. Mae 'na olion daeargryn enfawr 200 mil o flynyddoedd yn ôl, a hefyd gweddillion spa oedd yn enwog iawn yn yr oes Fictoraidd, ond sydd rŵan yn gasgliad o gerrig yn y goedwig.

Fel ffotograffydd, dwi'n gweithio i ddangos y llefydd yma heddiw ac fel yr oeddent yn wreiddiol. Dwi wedi ail-greu llun o dirwedd Llanddeiniolen Oes yr Ia ac Oes y Rhufeiniaid a dangos sut oedd cromlechi yn edrych.

Ddaru ni gynnig y map o Landdeiniolen i bob tŷ yn yr ardal ac mi ges i sioc pan glywais gan rywun ym Mhenisa'rwaun bod plant lleol wedi penderfynu mynd am dro i chwilio am yr hanesion ar y map. Nid oeddwn yn disgwyl hynny o gwbwl. Mae eraill wedi dweud nad oeddent erioed yn gwybod bod yna gaer yn y cae drws nesa, er enghraifft, a'u bod rŵan am fynd allan i ddarganfod eu hanes lleol.

Mae'n wych i helpu pobl leol darganfod eu cynefin am y tro cyntaf.

Yn y pendraw, y gobaith yw cynnig yr holl fapiau yma mewn un lle - ein canolfan gerdded yma yn Llanberis. Mae yna lwyth o lwybrau cerdded ffantastig yn yr ardal, ond mae'n anodd iawn ddod o hyd i'r wybodaeth amdanynt i gyd ar unwaith er mwyn cynllunio taith.

Rydym hefyd am drefnu teithiau cerdded gydag arweinydd, yn cychwyn o'r ganolfan gerdded a llefydd eraill yn yr ardal. Byddem yn dewis thema; y Rhufeiniaid neu oes y Chwildro Diwydiannol. Y gobaith hefyd yw cyd-weithio gyda byrddau iechyd lleol iddynt gyfeirio pobl tuag atom er mwyn iddynt wella eu hiechyd ar ôl bod yn sâl neu mewn damwain. Nid oes rhaid cerdded ym mhell; rydym am drefnu taith yn dangos hanes Bangor, a jest cerdded rhyw ganllath ym mhob cyfeiriad.

Mae hefyd croeso i chi ddod draw i'r ganolfan gerdded yn y Fferm Fêl ar Stryd Fawr Llanberis am ragor o fapiau o deithiau cerdded o amgylch y pentref yma neu i ddarganfod pryd fyddem yn cynnal ein taith nesaf.

Dewch ar daith o luniau Gareth.



Lleol i Mi
Radio Cymru
Adolygiadau


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy