Teithiau clwb WI Llanfairfechan o amgylch arfordir MônNewyddion: Agor llwybr a gweld aderyn prinLluniau o deithiau cerdded ar hyd y llwybr gyda sêr Radio CymruGolygfeydd, hanes a diwydiant ar hyd y llwybr.MANYLION Y 12 TAITH
Mae Llwybr Arfordirol Ynys Môn o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol sy'n rhoi cyfle ichi weld pob math o dirweddau a chynefinoedd gwahanol: cymysgedd o dir fferm, rhostir arfordirol, twyni, morfa heli, blaendraethau, clogwyni a coetiroedd.
Mae'r llwybr cyfan yn 125 milltir o hyd ac yn dilyn mwy neu lai holl arfordir yr ynys. Mae wedi ei rannu yn 12 taith unigol ac yn addas i gerddwyr yn bennaf, er y gellir mwynhau rhai rhannau ar gefn beic neu geffyl.
Mae'n pasio drwy 20 o drefi neu bentrefi yn uniongyrchol a'r man cychwyn swyddogol ydy Eglwys Sant Cybi, Caergybi (cyfeirnod grid SH247 826). Ar gyfartaledd, byddai'n cymeryd 12 diwrnod i gwblhau'r llwybr cyfan.
Uchafbwyntiau'r llwybr: Mynydd Tŵr ac Ynys Lawd, Bwâu Rhoscolyn, Ynys y Fydlyn (Pen Bryn yr Eglwys), Porth Wen, Ynys Llanddwyn, Pont y Borth a Phont Britannia, Eglwysi Llangwyfan (Aberffraw), Llanbadrig a Sant Tysilio (Porthaethwy), Gwarchodfa Natur Cemlyn, Trwyn a Phriordy Penmon.
Cliciwch ar y teithiau i gael mwy o fanylion oddi ar wefan Cyngor Sir Ynys Môn:
RHAN 1: Caergybi - Porth Trwyn (Llanfaethlu)
Hyd: 20km / 12.5 milltir
Man cychwyn: Eglwys St Cybi, Caergybi, SH247826
Man gorffen: Porth Trwyn, SH297877
Manylion llawn
RHAN 2: Porth Trwyn (Llanfaethlu) - Cemaes
Hyd: 19km / 12 milltir
Man cychwyn: Porth Trwyn, SH297877
Man gorffen: Cemaes, SH371934
Manylion llawnRHAN 3: Cemaes - Porth Amlwch
Hyd: 12km / 7.5 milltir
Man cychwyn: Cemaes, SH371934
Man gorffen: Porth Amlwch, SH449932
Manylion llawn
RHAN 4: Porth Amlwch - Moelfre
Hyd: 20km / 12.5 milltir
Man cychwyn: Porth Amlwch, SH449932
Man gorffen: Moelfre, SH513863
Manylion llawn
RHAN 5: Moelfre - Pentraeth
Hyd: 9km / 6 milltir
Man cychwyn: Moelfre, SH513863
Man gorffen: Pentraeth, SH531797
Manylion llawn
RHAN 6: Pentraeth - Biwmares
Hyd: 20km / 12.5 milltir
Man cychwyn: Pentraeth, SH531797
Man gorffen: Biwmares, SH606760
Manylion llawn
RHAN 7: Biwmares - Llanfairpwll
Hyd: 12km / 7.5 milltir
Man cychwyn: Biwmares, SH606760
Man gorffen: Llanfairpwll, SH530710
Manylion llawn
RHAN 8: Moel y Don - Llyn Rhos Ddu
Hyd: 12km / 7.5 milltir
Man cychwyn: Moel-y-Don, SH518678
Man gorffen: Llyn Rhos-Ddu, SH429650
Manylion llawn
RHAN 9: Llyn Rhos Ddu - Aberffraw
Hyd: 21km / 13 milltir
Man cychwyn: Llyn Rhos-Ddu, SH429650
Man gorffen: Aberffraw, SH355689
Manylion llawn
RHAN 10: Aberffraw - Pontrhydybont (Four Mile Bridge)
Hyd: 22km / 14 milltir
Man cychwyn: Aberffraw, SH355689
Man gorffen: Pontrhydybont (Four Mile Bridge), SH280783
Manylion llawn
RHAN 11: Pontrhydybont (Four Mile Bridge) - Trearddur
Hyd: 14km / 9 milltir
Man cychwyn: Pontrhydybont (Four Mile Bridge), SH280783
Man gorffen: Bae Trearddur, SH255790
Manylion llawnRHAN 12: Trearddur - Caergybi
Hyd: 19km / 12 milltir
Man cychwyn: Bae Trearddur, SH255790
Man gorffen: Eglwys St Cybi, Caergybi, SH247826
Manylion llawn