Agorodd Antur Waunfawr yn 1984, ac mi gychwynnais i'r flwyddyn wedyn. Ddaru Gwynn Davies, a gafodd y syniad i sefydlu Antur, fy ngweld ar y stryd fawr a dweud wrtha'i i sgwennu llythyr cais am swydd gweinyddwraig yn ei gwmni newydd - a dwi dal yma!
Roedd Gwynn yn teimlo bod gan bawb, dim ots beth oedd eu cyflwr, yr hawl i fynd allan i weithio a chael eu derbyn i mewn i'r gymuned leol.
Roedd ganddo blentyn anabl, a gwelodd, ar ôl iddo adael ysgol arbennig pen dalar, yr unig ddewis oedd mynd i ganolfan hyfforddi am y blynyddoedd i ddod. Ei weledigaeth o oedd rhoi'r cyfle i'w blentyn, ac eraill, wneud joban o waith fel pawb arall.
Ddaru o gynnal cyfarfod cyhoeddus i bobl y pentref, a daeth dros 200 i glywed ei syniad. Daeth pobl o'r Swyddfa Gymreig i ateb unrhyw gwestiynau a thalodd nifer fawr ohonynt bynt i fod yn aelod o'r cwmni elusennol.
Yn y dechrau roedd gennym ni hen fwthyn ac roedd angen lot o waith arno; roedd 'na goeden yn tyfu drwy'r to ac roedd fy swyddfa weinyddol efo llawr pridd! Felly aeth pawb ati i helpu i ni wella'r adeilad. Byddai pawb, gan gynnwys ein gweithwyr, yn dringo ystolion i blastro'r nenfwd - 'sa ni'n methu gwneud hynny heddiw, efo rheolau iechyd a diogelwch!
Aeth Gwynn ymlaen i brynu hen siop ei deulu a'r tir o'i hamgylch, a dyna lle rydym ni hyd heddiw. Rydym newydd ail-lansio'r siop fel un hanesyddol, fel y byddai'n arfer fod yng nghyfnod teulu Gwynn. Roedd ganddo gymaint o bethau o'r cyfnod - hen lyfrau acownt, biliau, hyd yn oed yr hen bren mesur i fesur nwyddau. Rydym am greu a gwerthu cardiau, jamiau a siytni ein hunain.
Mae ein gweithwyr hefyd efo cytundebau gyda Chyngor Gwynedd i gadw gerddi Waunfawr yn daclus ac edrych ar ôl y parc natur. Mae eraill yn gweithio yn ein caffi, yn gweini, addurno cacennau neu olchi'r llestri.
Rydym hefyd wedi datblygu tu hwnt i Waunfawr, ar stad busnes Cibyn, Caernarfon. Yn y Warws Werdd rydym yn hel ac yn ail-werthu hen ddodrefn ac yn Caergylchi, rydym yn sortio plastic i'w ail-gylchu a hefyd yn hel papur o swyddfeydd lleol i'w ail-ddefnyddio neu i'w shredio.
Nid ydynt yn dod yma i gael eu gwarchod, ond i weithio. Oherwydd eu hanabledd, mae pawb yn gweithio ar lefelau gwahanol, ond rhaid i bawb cyfrannu i'r gorau o'u gallu. Ac mae'n bwysig bod y gweithwyr yn cael y dewis o beth maen nhw eisiau ei wneud. Roedd un eisiau gweithio mewn archfarchnad, felly, gyda chymorth un i un, mae o allan yn Morrison's, ac un arall mewn siop elusen.
Mae Antur hefyd yn rhedeg cartrefi gyda staff i helpu pobl gydag anghenion arbennig i fyw yn annibynnol, yn ogystal â chymorth i helpu iddynt wneud hynny allan yn y gymuned.
Nid yw ein gweithwyr yn cael cyflog go iawn, fel na fydd yn amharu ar unrhyw fudd-daliadau, ond maen nhw'n cael therepeutic earnings'. Mae dydd Gwener, diwrnod talu, yn ddiwrnod mawr iawn fan hyn!
I mi, y peth gorau am Antur Waunfawr yw cael gweld hyder y gweithwyr yn gwella cymaint. Mae lot wedi bod efo ni bron ers y cychwyn ac mae'n wych gweld nhw'n datblygu o fod yn blant bach swil i fod yn oedolion hyderus sy'n cael eu derbyn yn y gymuned. Be fyse eu hanes heb y lle yma?
Ni oedd un o'r llefydd gyntaf i wneud hyn ym Mhrydain, os nad y byd. Mae rhai wedi dod o bell i weld sut rydym yn gweithio fan hyn ac wedi mynd yn ôl i sefydlu'r un math o gwmnïau ledled y byd.
Dwi wedi gweld pethau'n newid dros y blynyddoedd; mae iechyd a diogelwch yn gallu bod yn boen, ond dyna fo. Rhaid rhoi hwnnw i un ochr a bwrw 'mlaen er les y cwmni, gan fod o'n le mor wych i weithio.