BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bwyd a diod

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Alison Lyndsey a'i chyfaill RosemarySiocled Alison
Croeso i fyd siocled Alison Lyndsey o gwmni Tipyn Bach o Siocled yng Nghonwy sy'n rhannu ei ryseit arbennig ar gyfer gwneud trwffl - mae'n hawdd meddai hi!
"Dwi wedi bod yn gweithio efo siocled ers Hydref 2004. Roeddwn i'n fydwraig am 13 mlynedd cyn penderfynu fy mod i am wneud rhywbeth arall, felly es i'r coleg i wneud gradd mewn gwyddoniaeth bwyd. A dyna pryd wnes i gychwyn dysgu fy hun sut i greu siocled.

"Mae'n mynd yn dda - dwi'n gwneud ac yn gwerthu'r siocled mewn siop fach yng ngerddi Bodnant ac mewn digwyddiadau lleol.

"Mae gwneud siocled yn eithaf technegol. Rhaid sicrhau fod y tymheredd yn gywir a'ch bod yn rhoi'r swm cywir o siocled i mewn i'r gymysgedd.

"Y cynhwysyn mwyaf annhebyg dwi wedi ei roi mewn siocled yw te gwyrdd, mewn trwffl, sy'n neis iawn! Rhaid mwydo'r gymysgedd mewn hufen cyn ychwanegu'r siocled tywyll. Mae popeth yn blendio efo'i gilydd i greu trwffl tywyll a sur, sy'n flasus iawn.

"Rydyn ni hefyd yn gwneud trwffl blas rhosyn, trwy gymysgu essential oil o'r rhosyn yn y ffondant.

"Fe wnaeth un ddynes ddod aton ni a gofyn am gilogram o siocled gyda'r gair 'aaahhh' wedi ei 'sgwennu arno! Roedd yn llawn ffrwythau, cnau pinwydden a phistashio, caramel a thaffi. Mi wna'i unrhyw beth mae rhywun yn gofyn amdano!

"Yr un mwyaf poblogaidd yw'r siocled llaeth gyda charamel, er fod siocled ffrwythau a chnau, sy'n cynnwys llugaeronen, llus a chnau Brasil yn gwerthu'n dda hefyd.

"Y peth hawsaf i'w wneud yw trwffl:
Toddwch siocled mewn powlen wydr dros sosban o ddŵr poeth - ond nid yn ferwedig. Rhaid sicrhau ei fod yn siocled gydag o leiaf 70% o cocoa solids ynddo.

"Trowch y siocled, gan dollti'r hufen i mewn - ac alcohol os hoffech: wisgi, vodka, rym neu Champagne - mi wnes i rai efo gwin blush Cymreig gan Cariad unwaith, egsotig iawn.

Yna, gadewch i'r gymysgedd oeri a'i rolio mewn i beli bach - blasus iawn."



Lleol i Mi
Radio Cymru
Ffilmiau


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy