| "Dwi'n gweithio efo'r diwydiant cregyn gleision yng Nghonwy. 'Da ni'n trin y cregyn fan hyn ar y cei. Mi fyddan ni'n eu rhoi nhw mewn tanciau mawr, a bydd y dŵr yn dod i mewn yn gyflym, yn gyrru popeth allan - yr halen, y crancod a phopeth.
"Mi fyddan ni'n gwneud hynny am ddau ddiwrnod, yna byddwn yn eu rhoi yn y fasged a'u rhoi ar y conveyor belt i gael eu pwyso. Yna i ffwrdd a nhw i'r farchnad ym Mirmingham, Manceinion a Lerpwl.
"Da ni'n defnyddio rhywfath o fforch hir â rhwyd i bysgota amdanynt. Rydyn ni'n mynd allan yn y cwch, lluchio'r rhwyd allan a dod a fo i mewn gyda'r catch. Dydy hi ddim yn bosib cymryd gormod ar unwaith neu bydd y cwch yn mynd i lawr, a chi efo fo! Felly fedrwch chi ddim bod yn greedy! "'Da ni'n trïo gwneud yn siwr fod 'na ddigon i'r dyfodol - mae'r diwydiant wedi cael ei basio lawr o fab i fab. Roedd pawb yn fy nheulu i yn ei wneud o - mae teulu'r Hughes, Craven a Jones yng Nghonwy wedi bod yn pysgota am gregyn gleision ers blynyddoedd. Ond mae 'na ormod o bobl eraill yn dod yma rŵan a jest yn cymryd y cregyn i gyd, heb eu 'piwriffeio' nhw - jest yn danfon nhw i Japan neu China a chael cash amdanynt.
"Fydda' i ddim yn mynd allan i bysgota dim mwy, ond dwi'n hoffi bwyta cregyn gleision - efo caws ydy'r ffordd orau. Poethwch y caws i wneud saws, a dipio'r cregyn ynddo. Fydda' i jest yn eu stemio nhw am ryw ugain munud, a phan maen nhw'n agor maen nhw'n iawn. Os nad ydyn nhw'n agor, peidiwch â'u bwyta. Os nad ydych yn eu bwyta nhw i gyd, mi allwch eu rhewi - ar ôl eu cwcio wrth gwrs."
 |