| "Dwi wedi trio gwneud newid bach yn y byd trwy agor siop yng Nghonwy yn gwerthu dim ond nwyddau Masnach Deg a dwi'n falch fod yna ymrwymiad o fewn Gwŷl Fwyd Conwy i'r nwyddau yma. Mi welwch de a choffi Masnach Deg ym mhobman yn yr ŵyl.
"Dwi wedi bod yn rhedeg fy siop ers pedair blynedd erbyn hyn. Roeddwn yn arfer gweithio i'r mudiad Cymorth Cristnogol ac yn gweld ei fod yn gwneud lot mwy o synnwyr, yn hytrach na rhoi handouts i bobl dlawd y byd, i'w helpu i sefyll ar eu traed eu hunain. Un ffordd gadarnhaol ydy talu'n deg iddynt am eu cynnyrch.
"'Da ni'n gwerthu'r pethau arferol fel te, coffi a siocled ond hefyd pethau fel cardiau, dillad, anrhegion, crefftau, teganau plant - mae 'na fwy a mwy o nwyddau Masnach Deg ar gael trwy'r amser.
"Mae 'na siop arall, Kingdom Crafts ar Stryd Madog, Llandudno. 'Da ni'n nabod ein gilydd yn dda, yn gweithio gyda'n gilydd heb gystadlu. Ni ydy'r unig rai yng ngogledd Cymru ar hyn o bryd.
"Mi es i allan i Ynysoedd y Ffilipin a gweld rhai o'r bobl sy'n creu'r nwyddau yma ac roedd yn dda cael cyfarfod y rhai sy'n gwneud y cardiau a'r crefftau 'da ni'n eu gwerthu yma yng Nghymru."
 |