BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bwyd a diod

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Dafad ac oenBwyd organig y fferm
Mae Gwyn Thomas yn cynhyrchu popeth yn organig ar ei fferm ger Bethesda lle mae'n magu defaid a gwartheg cynhenid. Mae'n aelod o'r Rhwydwaith Ffermydd Organig a gallwch ymweld â'r fferm i weld sut mae'n gweithio.

"Roedd cychwyn fferm organig yn rhywbeth reit naturiol i mi ei wneud pan gymerais i'r fferm drosodd gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ddeng mlynedd yn ôl. Roeddwn eisiau rhoi stamp fy hun ar ffermio, drwy ddefnyddio dulliau traddodiadol ar ôl gweithio i eraill am 27 mlynedd.

"Dyma'r unig fath o ffermio fedrwch chi ei wneud yn Eryri go iawn, gydag anifeiliaid cynhenid - gwartheg duon a defaid mynydd Cymreig.

"Dwi'n ffarmio efo natur, yn hytrach na'n groes i natur, gyda lot mwy o bwyslais ar gynhyrchu anifeiliaid o safon da yn lle niferoedd mawr.

"Efo buches pedigri a diadell o ddefaid Cymreig yn cynhyrchu anifeiliaid o safon da, sy'n organig, dwi'n ateb y galw mawr yn yr archfarchnadoedd a gan y cyhoedd sydd eisio bwydydd iach, sy' heb drafaelio yn bell ofnadwy rhwng y fferm a'r siop.

"Mae cig organig, yn enwedig cig gwartheg duon wedi mynd yn ffasiynol iawn ac oherwydd y prinder, maen nhw'n werthfawr iawn.

"Mae'r rheolau am beidio â defnyddio cemegau yn gaeth, ond mae hynny'n peth da. Da ni am i'r cyhoedd cael hyder bod y cynnyrch wir yn organig ac felly mae'r gwaith papur yn drylwyr a'r goruchwylio'n rheolaidd. Os ydy un anifail yn gorfod cael gwrthfiotig am ryw reswm, yna dydyn nhw ddim yn organig.

"Wrth gadw llai o anifeiliaid na sy'n draddodiadol, bridio yn ofalus a rhoi gwell tendans iddyn nhw, maen nhw'n iachach ac o safon uwch.

"Da ni'n gwneud pethau'n reit syml - efallai bod yr hen ddulliau wedi cael eu hanghofio gyda'r dulliau modern o ffermio dros yr hanner can mlynedd diwethaf. Gyda bridiau cynhenid o safon uchel, mae'n cymryd mwy o amser i roi'r cig ymlaen ond wrth wneud hyn yn ara' deg mae'r cynnyrch llawer mwy blasus. Gwell na chael cig o Frasil neu'r Ariannin neu rywle sy' mor bell i ffwrdd a lle nad yw'r safonau mor uchel ag ym Mhrydain.

"Dwi hefyd wedi creu llwybr addysgol ar hyd gwaelod y dyffryn ar dir y fferm i roi cyfle i blant ymweld â ni. Mae cymaint o blant yn dod o Loegr oherwydd gwersi daearyddiaeth i ffeindio allan am y dyffryn rhewlifol siâp-U, ond mae hefyd yn bwysig iddyn nhw siarad efo ffarmwr go iawn o'r dyffryn - rhywun sy'n gwneud bywoliaeth ohono, sydd â theulu, iaith, a diwylliant sy'n arbennig i'r ardal.

"Mae'n ofnadwy i mi nad oes gan gymaint o blant rhwng 10 ac 17 fawr o syniad o le mae eu bwydydd yn dod, heb sôn am sut mae bwydydd yn cael eu tyfu neu ei fagu.

"Dwi'n falch ofnadwy bod Jamie Oliver wedi tynnu sylw at sut mae pobl ifanc yn bwyta, ond mae 'na lot fawr o waith angen ei wneud yn y byd addysg. 'Da ni wedi colli dwy genhedlaeth rŵan oherwydd diffyg gwersi coginio yn yr ysgol, ac os nad yw'r rhiant yn gwybod sut i wneud pryd o fwyd poeth a maethlon, wnaiff y plant fyth ddysgu.

"Aeth fy merch 'fenga i'r coleg yng Nghaerdydd a byw efo wyth o bobl ifanc eraill o ledled Prydain oedd heb syniad sut i fwyta'n iawn. Mi fyddwn i'n mynd lawr efo cig iddi, a hithau'n creu bwyd da ac ar ôl pedaid blynedd mae ei ffrindiau am fynd allan i'r byd wedi dysgu gymaint am fwyta'n iach.

"Bwydydd syml, tymhorol yw'r gorau. Does dim yn well na stecan, salad a thatws newydd yn yr haf.

"Pan mae'n oeri, does dim gwell na choginio darnau o gig sydd ddim yn ddrud - brest oen wedi ei stwffio, llysiau tymhorol, tatws a grefi tew a nionyn - llenwi'r teulu, yn flasus ac yn rhad.

"Y diwrnod wedyn, mi allwch chi dorri'r cig oen yn stripiau tenau a'u cael nhw ganol dydd efo dipyn o bicl a bara.

"Byddwn yn rhoi popeth mewn lobsgóws - rwdan, moron, cennin, unrhyw beth tymhorol. Mae'n bosib gwneud lobsgóws efo cig oen ond y peth gorau i'w wneud yw coginio'r cig yn gyntaf, gadael i'r saim fynd i'r wyneb a'i dynnu o' na cyn ychwanegu'r llysiau.

"Bwydydd syml, ond bwydydd sy'n dda i chi.

"Mae lot yn dweud eu bod yn rhy brysur i goginio ar ôl dod nôl o'r gwaith ond mae gan bawb fodd i brynu slow cooker, neu baratoi ychydig y noson gynt yn lle rhoi popeth yn y popty ar 250 gradd a disgwyl i'r bwyd fod yn barod yn syth."

Ymweld a phrynu: Gallwch ymweld â'r fferm ac aros yno. Ffoniwch ymlaen llaw i drefnu ymweliad neu i brynu cig - 01248 600400.
Cyfarwyddiadau: Mae'r fferm oddi ar ffordd yr A5 rhwng Betws-y-coed a Bethesda. Wrth waelod Llyn Ogwen, trowch i'r chwith oddi ar yr A5 a phasio heibio i ganolfan ymwelwyr y Parc Cenedlaethol a'r hostel ieuenctid. Ewch ymlaen dros y grid gwartheg ac i lawr yr allt i Nant Ffrancon a mynd heibio i'r cwt sgowtiaid ar y chwith. Mae'r mynediad i'r Flaen y Nant ar y dde.



Lleol i Mi
Radio Cymru
Theatr


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy