BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Blaenau Ffestiniog
Mici PlwmBlaenau Mici
Gofynnwyd i Mici Plwm - un o hogiau Llan Ffestiniog - restru ei hoff Bethau'r Blaenau. Dyma'i restr ...

Blaenau Ffestiniog - heb anghofio Llan

Llwyd llechan ydi fy hoff liw.

Pan yn yr ardal yn teimlo fod gen i berffaith hawl i fod yma. Mae gwreidda fy magwraeth yn ddwfn iawn.

Pobol yr ardal yn agos atoch ac yn ffraeth iawn gyda hiwmor arbenig.

Dim byd gwell na swatio dan y dwfe pan fo hi'n tachian bwrw - dwi wrth fy modd mewn glaw! (wir yr!)

Edrych mlaen yn fisol at dderbyn fy nghopi o Llafar Bro

Teimlo'n saff yma.

Yn ymfalchio pan fydd llwyddiant yn yr ardal.

Mi gewch bopeth da chi isho yma.

Michael Lloyd Jones; Mici Plwm; Meical Ddrwg o Dwll y Mwg; Michalis - ond Meical Llan (Stiniog) pan yn byw yma.

Wedi cadw cysylltiad agos iawn â fy nghyfoedion.

Meddwl am fy mol !! Cinio Ysgol gora yn y byd - Ysgol Gynradd Llan Ffestiniog; Ysgol Central a County Blaenau Ffestiniog.

Sgwn i ble mae trol eis crim Mr Taddies?

Ma Stiniog fatha No 8 mewn injaroc - o goryn i sawdl pob un ohonom - a dwi'n falch o hynny.

Dei Dw; Crymei; Orthin; Wil Bach; Côrkish; Pines; Cen Crymei; Macmin a Moloch. - rhai o gewri pêl-droed ddoe. Gwych deall fod yr Inter Quarry Cup yn ôl mewn bri.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.


Straeon Digidol
Trefi
Theatr


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy