BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Blaenau Ffestiniog
Glyn yn cael ei gyfweld ar radioBywyd ar ôl y tŷ
Sut mae bywyd wedi bod i Glyn Wise ers gadael tŷ'r Brawd Mawr? Mi gawson ni'r gwir o enau'r dyn ei hun pan fu ar fwrdd yr Hysbys yn Llanberis a datgelu yn bydd yn cyflwyno ar C2.
News imageGwrandewch ar Glyn yn cael ei holi gan staff yr Hysbys.

Ti wedi cael dy wneud llysgennad myfyrwyr Cymraeg UMCB (Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor). Oeddet ti'n gwybod hynny?

Ww, posh! Mae'n meddwl lot i mi, diolch yn fawr. Mae'n swnio'n cŵl - awsome!

Wyt ti'n difaru peidio â mynd i Brifysgol Bangor yn 2006?
Na, achos dwi'n byw fy mreuddwyd rŵan a dwi am fynd flwyddyn nesaf felly dwi am wneud popeth dwi'n gallu rŵan - byw'r freuddwyd, fel maen nhw'n ddweud.

Wyt ti'n dal eisiau dysgu Cymraeg ar ôl coleg?
Oes, dyna yw fy mhrif fwriad pan dwi'n hŷn - i ddysgu Cymraeg i bobl, dwi'n meddwl ei bod yn bwysig gwneud.

Sut deimlad ydy bod yn 'seleb' yn dy ardal dy hun?
Dwi'm yn gwybod! 'Swn i ddim yn galw fy hun yn 'seleb' ond mae'n wych cael pobl yn dod atat ti a deud petha neis a rhoi pethau i ti a dwi jest yn joio fy hun - mae'n wych.

Ydy'r tŷ wedi dy newid o gwbwl?
Do, dwi wedi tyfu i fyny yna, mae gen i fwy o confidence a dwi'n fwy indipendant. Dwi gorfod gwneud lot o bethau ar ben fy hun rŵan - mynd i'r airport, trafaelio rownd y wlad, pethau 'swn i byth wedi eu gwneud ar ben fy hun o'r blaen. Dwi'n gorfod gwneud pob peth rŵan - nôl bwyd ac yn y blaen. Dwi jest yn byw fy mywyd ar ben fy hun - mynd o dre i dre, o stiwdio i stiwdio, o westy i westy.

Wyt ti dal yn byw gartref efo dy fam a dy dad?
Dwi 'mond wedi bod adra am dri diwrnod ers gadael y tŷ! Bob tro dwi adra mae mam yn gofyn os dwi'sho mynd allan am fwyd, ond dwi jest eisio mynd i'r gwely gan fy mod i mor shattered! Ond dwi'n gwneud gymaint â dwi'n gallu rŵan.

Wyt ti wedi cael unrhyw gynigion teledu/radio?
Do, dwi am wneud Planed Plant am wythnos ac wedyn dwi am wneud C2 am wythnos hefyd - dwi'n edrych ymlaen at hynny, methu 'gwitsiad' a dwi'n gobeithio mynd ymlaen o hynny.

Bydd Glyn yn cyd-gyflwyno gyda Daf Du am wythnos rhwng Tachwedd y 6ed a'r 10fed ar BBC Radio Cymru. Bydd yn dewis peth o'i hoff gerddoriaeth; trafod ei brofiadau o gael ei gloi yn y tŷ a'i brofiadau ar ôl gadael y tŷ. Mi fydd hefyd yn ateb rhai o'ch cwestiynau chi, felly os oes ganddoch gwestiwn i'w ofyn i Glyn, ebostiwch c2@bbc.co.uk.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.


Straeon Digidol
Trefi
Ffilmiau


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy