BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Blaenau Ffestiniog
Emrys Evans yn cawio pluEnwau plu Stiniog
Mae pob math o enwau difyr ar Blu Stiniog ac mae Emrys Evans yn eu gwybod nhw i gyd.
  • Ewch i weld stori ddigidol Emrys am blu Stiniog

    Rhwyfwr Robat Jones Siop
    Roedd Robat Jones a oedd yn cadw siop Congl y Wal ym Manod yn un a llygad am fusnes ac wrth i'r diddordeb mewn pysgota dyfu yn yr ardal buan iawn yr ychwanegodd yntau offer pysgota at ei stoc ond nid plu ar y cychwyn.

    Rhwyfwr Robat Jones SiopOnd pan ddechreuwyd gofyn am rai anfonodd Robat batrwm y Rhwyfwr Cochddu Mawr at gwmni yn Lloegr i gynhyrchu rhai ar ei gyfer.

    "Ond pan ddychwelodd y bluen," meddai Emrys Evans, "doedd hi ddim yn union yr un fath a'r gwreiddiol ond er hynny mi benderfynodd rhai o'r hogia roi cynnig arni ac yn wir mi ddechreuodd hi ddal. Oherwydd hynny bu'n rhaid cael enw arni i'w hargymell i eraill a'r enw a gafodd oedd, Rhwyfwr Robat Jones Siop o gymharu â'r Rhwyfwr Cochddu Mawr!"

    Egarych Sgarff Huw Wan
    Daeth y bluen hon i fodolaeth pan sylwodd W J Owen Rhen Hafod ar sgarff oedd gan Ann Elin Jones am ei gwddf wrth adael un o oedfaon Cymanfa Bregethu'r Pasg yng Nghapel Bethesda, Manod, ddiwedd y dauddegau.

    Y lliw coch oedd arno dynnodd ei sylw gyda chydynnau ohono ar bob pen i'r sgarff.

    Roedd tad Ann Elin Morris Jones ac un brawd iddi Hugh Owen Jones yn pysgota a fu hi ddim yn anodd i'r Hen Hafod gael un o'r cydynnau yma!

    Cawiodd egarych efo tamaid o'r sgarff yn gorff iddi a dechreuwyd dal efo hi.

    Ond er mai sgarff ei chwaer ydoedd enw'r brawd Huw Wan a roddwyd ar y bluen.

    Gwnaed plu eraill efo'r corff yma - Petrisen, Ceiliog Hwyad a Chyfflogyn er enghraifft - ond yr Egarych oedd y fwyaf adnabyddus.

    Llew Bach
    Un o'r plu dydd gorau os nad yr orau un ydi Llew Bach. Gelwir hi wrth yr enw yma am ei bod mor dda am ddal ond wyddom ni ddim pwy a'i lluniodd gyntaf dim ond i'r patrwm gael ei throsglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth. Am ryw reswm dydi Llew Mawr - pluen o'r un patrwm yn union ar fach un maint yn fwy - ddim yn gweithio gystal â'r Llew Bach.

    Pluen Rhew Ifan Rhen Gerrig
    Er bod Ifan yn sgotwr selog a gymrodd at gawio yn fuan iawn mae'n ymddangos nad oedd o'n cael llawer o hwyl ar y naill grefft na'r llall.

    Ond yr oedd yn adnabyddus am draethu'n awdurdodol am y ddau bwnc gan ddadansoddi ac esbonio'n helaeth.

    Pluen Rhew Ifan Rhen Gerrig Er mwyn pwysleisio rhinweddau pluen newydd yr oedd wedi ei chawio yn wyneb llawer o ddirmyg a thynnu coes haerodd Ifan y byddai hon yn dal hyd yn oed pe byddai llyn wedi rhewi'n gorn.


    Ac, yn wir, yn gwbl groes i'r disgwyl fe ddechreuodd y bluen ddal yn llawer gwell nag a feddyliodd neb.

    A chafodd ei galw yn Bluen Rhew Ifan Rhen Gerrig.


  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.


    Straeon Digidol
    Trefi
    Eisteddfodau


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy