BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Blaenau Ffestiniog
Delyth GreyBlaenau Delyth
Delyth Gray, un o olygyddion Llafar Bro, yn dweud beth mae Blaenau Ffestiniog yn ei olygu iddi hi.
  • Rwy'n 35 oed ac wedi fy ngeni a fy magu ym Mlaenau Ffestiniog. Rwyf wedi byw yng nghanol y dref erioed, ar wahân i'r cyfnod lle bûm yn fyfyrwraig yn y Brifysgol ym Mangor, ac yna yn dysgu mewn ysgol uwchradd yn Llydaw, ac yn y Brifysgol ym Mharis.

  • Mae cael byw yn y Blaenau yn golygu tipyn i mi, a'r rheswm pennaf am hynny yw oherwydd y gymdeithas glos sydd yn bodoli yma. Hefyd, rwy'n ei ystyried yn fraint fy mod yn gallu siarad Cymraeg pob dydd yma gyda'r holl drigolion.

    Mae fy ngŵr, sy'n hanu o Brestatyn ac sydd wedi dysgu'r iaith Gymraeg fel oedolyn, wrth ei fodd yma gan ei fod yn gallu ymarfer ei ail iaith yn feunyddiol.

    Er bod mwy a mwy o fewnfudwyr yn dechrau setlo yn y dref, fel ymhobman, mae'r Gymraeg yn parhau yn gryf a chadarn. Yn sgîl hyn, braf yw medru magu fy merch fach chwech oed, Megan, yn gwbl Gymraeg. Trwythir plant sy'n mewnfudo yn y Gymraeg yn syth bin pan ddônt i'r ysgolion lleol fel mai Cymraeg ydi iaith yr iard a'r dosbarth yn ddieithriad.

  • Mae doniau cerddorol trigolion y dref hon yn haeddu sylw a chanmoliaeth uchel. Ym mha dref arall o faint Blaenau y cewch chi dri chôr (Brythoniaid, Moelwyn, Cymysg y Blaenau), dau fand pres (Band iau, Band Brenhinol yr Oakeley), a thri grŵp roc mwyaf blaengar Cymru ( Anweledig, Mim Twm Llai, Estella).

    Fe ddaeth fy niddordeb i mewn canu a pherfformio, fel sawl un arall, yn sgîl brwdfrydedd a gwaith caled athrawon Ysgol y Moelwyn , megis Meinir Humphreys (Drama) Gwen Edwards (Llefaru a Chymraeg) a Geraint Vaughan Jones (Llenydda).

    Hefyd, cefais y fraint o gael perthyn i Gôr Aelwyd yr Urdd Blaenau dan arweiniad campus Meirion Jones am sawl blwyddyn, a mawr yw fy niolch personol i Bobi Roberts a'r arweinyddion eraill, Haf Thomas a Pit Maddocks am yr oriau y treuliasant yn wirfoddol yn ein diddori fel aelodau'r Urdd.

  • Yr hyn sy'n nodweddiadol am y Blaenau ydi hiwmor pobl yr ardal. Ceir llond trol o chwerthin a thynnu coes yn y dref hon. Ceir colofn arbennig yn y Llafar Bro yn fisol yn dwyn y teitl 'Clywsom' lle mae cyfle i ddwyn i sylw pobl y troeon trwstan sydd wedi digwydd i unigolion yn ystod y mis.

    Mae'r hiwmor i'w weld yn amlwg yn y tafarnau lleol ac ar y cae pêl-droed.

  • Yn sgîl yr hiwmor unigryw a geir yma daw y llysenwau. Chewch chi'r unlle gwell na'r Blaenau am lysenwau gwreiddiol a difyr. Mae cymeriadau di-ri dros y blynyddoedd wedi cael enwau megis Magi Ffwl Pelt , Mary Piso'n Gam a Dic One And Nine, heb sôn am Jonny Fingers ( arfer dwyn pan yn blentyn) a Dick One Cow (Duw â ŵyr pam!).

  • Mae ardal y Blaenau yn lle bendigedig o brydferth hefyd, yn enwedig y mynyddoedd sy'n amgylchynu'r dref y Moelwynion a'r ddau Fanod, y llynnoedd hardd Barlwyd a Morwynion, ac wrth gwrs y llecyn gorau'n y byd sef Cwmorthin.

    Yn wir, mae na rywbeth arbennig o hudolus am Gwmorthin gyda'i hen adfeilion a'r llyn a'r bywyd gwyllt sydd yno. Cafodd fy nhad ei fagu yno, a mawr oedd ei barch am y lle.

  • Gobeithiaf yn fawr y bydd Blaenau yn datblygu ac y bydd y dref yn llewyrchus yn y dyfodol. Neuadd y Farchnad Mae lefelau tlodi yn uchel iawn yma, ond mae ysbryd ei phobl yn gryf ac yn gadarn. Mae gobaith ar hyn o bryd y bydd Neuadd y Farchnad y dref yn cael ei hail agor ac yn dod yn neuadd aml bwrpas ar gyfer trigolion y dref. Rhywbeth sydd ei angen yn fawr iawn yma. Beth bynnag a ddaw, un peth sy'n sicr does yna unlle yn debyg i'r Blaenau!

  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.


    Straeon Digidol
    Trefi
    Eisteddfodau


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy