| "Ar ôl meddwl yn galed iawn mae yn anodd meddwl am un beth yn unig sydd yn gwneud Blaenau yn Blaenau. Mae yn bart o fy mhlentyndod, lle roeddwn yn cerdded y Moelwyn droeon, nofio yn llyn Flax a`r Manod, hel llus uwchben Penmachno/Blaenau, cael cusan gyntaf o dan Bont Queens, mynd i Ffair Llan, ffraeo gyda fy nghneither fel roeddwn yn cerdded drwy fynwant Bethesda ar y Sul am bwy oedd yn perthyn mwy iddi hi a fi, mynd i'r Ysgol Sul a'r Band of Hope, trip Ysgol Sul, te parti Nadolig, Y Gymanfa a'r Carnifal. A beth oedd yn gwneud rhain i gyd yn bosib? Beth sydd yn gwneud Blaenau, ond POBOL Blaenau. Dwi wedi gadael Blaenau ers llawer o amser ond dydi Blaenau heb fy ngadael i. Mae yn fy nghalon am byth. Lle mae fy rhieni a fy nheulu yn gorffwyso yn gesail y Moelwyn."
 |