"Cefais fy ngeni ym Miwmares ac mae'n dal i fod yn lle gwych i fyw. Fuaswn i ddim yn byw yn unlle arall.
"Es i Ysgol David Hughes. Yn wreiddiol, roedd yr ysgol yn y dref yma. Cafodd ei chychwyn yn 1603 ac roedd yn ysgol breifat i fechgyn, ond gadawyd i ferched ymuno yn nes ymlaen. Newidiodd o'r drefn ramadeg i'r system uwchradd yn y pumdegau Mi ddaru ni ddathlu ei phedwar can mlwyddiant yn 2003 - roedd yn barti gwych!
"Yn anffodus, symudwyd yr ysgol i Borthaethwy yn 1962 gan fod y boblogaeth wedi cynyddu. Roedd yr adeilad yn rhy fach erbyn hynny ac nid oedd digon o dir ar gael ym Miwmares i'w ehangu. Es i am fy mlwyddyn olaf i Borthaethwy ond roeddwn yn casáu'r ysgol newydd. 'Doedd o ddim yr un fath.
"Mae'r hen adeilad ym Miwmares yn ganolfan gymunedol erbyn hyn. Dwi'n helpu i redeg pethau yno - rydan ni'n cynnal gwersi iaith, dawns, celf - mae 'na hyd yn oed briodas a chynhebrwng wedi cael eu cynnal yno. Mae ganddon ni glwb ffilmiau bob pedwerydd nos Iau yn y mis hefyd.
"Roedd Biwmares yn lle gwych i fyw fel plentyn. Roedden ni'n chwarae yn y castell - roedd y llwybrau a'r corneli bach yn wych i guddio ynddynt! Doedd 'na ddim goleuadau yna ar y pryd chwaith, felly roedd yn lle oedd yn codi ofn mawr arnon ni weithiau.
"Roedd pwll nofio awyr agored yn arfer bod y tu hwnt i'r green. Mae'r olion yn dal yno ond dydy o ddim yn cael ei ddefnyddio - dwi'n siŵr y bysai'n anghyfreithlon erbyn hyn! Bron i nghyfneither fy moddi yno unwaith...
"Roedd ganddon ni gwrt tenis hefyd, i fyny yn Happy Valley. Roedd y cyrtiau gwreiddiol o fewn waliau'r castell!
"Arferai'r carchar fod yn glinig i blant. Dwi'n cofio crwydro o amgylch yr hen stafelloedd - er nad oedden ni i fod i fentro i'r rhan fwyaf ohonynt!
"Fe wnaeth y person olaf i gael ei grogi y tu allan i'r carchar roi melltith ar gloc yr eglwys gyferbyn - Eglwys y Santes Fair a San Niclas. Mae gan dŵr y cloc bedwar wyneb, ac yn ôl y sôn wnaeth yr wyneb oedd gyferbyn a fo fyth ddweud yr amser cywir wedi hynny. Ddaru o ddim dweud yr un amser â'r tri arall am flynyddoedd - ond efallai fod hynny'n ymwneud â'r ffaith ei fod yn wynebu'r gwynt de orllewinnol o'r môr! Cafodd ei drwsio ac mae'n gweithio'n iawn rŵan - ond mae'n stori dda!
"Ger drws yr eglwys y mae arch Brenhines Siwan, er ei fod yn wag. Cafodd ei ddarganfod mewn coedwig flynyddoedd yn ôl, yn cael ei ddefnyddio fel cafn ceffyl!
"Mae 'na hefyd enghreifftiau gwych o 'misericords' ger seddi'r côr yn yr eglwys. Math o gerfluniau ydynt o ddelweddau neu bennau cymeriadau o'r gorffennol - fel hen wraig i bysgotwr! Maen nhw'n dangos sut oedd bywyd yn yr ardal cyn i Fiwmares gael ei sefydlu felly mae'n rhaid eu bod yn dyddio yn ôl i gyfnod y mynachdy gwreiddiol oedd yma cyn y 13eg ganrif.
"Dwi'n deall eu bod yn rhai o'r esiamplau gorau o 'misericords' yn y wlad.
"Felly mae 'na lot o hanes yma ym Miwmares. Mae'n lle digon tawel, ond mae 'na lot yn mynd ymlaen. Dydy hi ddim gymaint yn brysur efo traffig, ond efo bywyd.
"Rydym yn cael regata a gŵyl blynyddol ac nid oes rhaid mynd dramor i weld dolffin - mi wnes i weld un ger Ynys Môn llynedd.
"Mae 'na hefyd adloniant yn Sgwâr y Castell (neu Sgwâr y White Lion) bob p'nawn drwy'r haf. Mae 'na ganu, dawnsio a pherfformio - mae'n lot o hwyl."