| "Dechreuodd y frwydr i adeiladu'r ganolfan yn 1996. Roedd neuadd eglwys y dref yn dirywio yn ofnadwy a threfnwyd cyfarfod gan y cyn gynghorydd Mr Iorwerth Rowlands, ac yno y ffurfiwyd Cymdeithas Canolfan Ieuenctid Biwmares.
"Bu Mr Rowlands yn brwydro'n galed a llwyddodd i sicrhau grant gan y loteri i ariannu'r prosiect i adnewyddu'r adeilad. "Mae'r ardal i gyd yn gwerthfawrogi gwaith caled Mr Rowland - mae wedi ennill MBE am ei waith yn y gymdeithas. "Ar hyn o bryd mae'r ganolfan yn cynnal grwpiau chwarae, gwasanaeth ieuenctid, cyrsiau dysgu gydol-oes, digwyddiadau cymdeithasol a gweithgareddau ar gyfer pobl o bob oed. "Dwi'n rheolwr yma ers y diwrnod cyntaf i'r ganolfan agor ei drysau ac erbyn hyn mae'n mynd o nerth i nerth. Mae'n cynnig gwasanaeth i ardaloedd Penmon, Pentraeth, Biwmares a Llangoed. "Mae'r nifer o blant, pobl ifanc a henoed wedi elwa ohoni gyda'r gweithgareddau yn cynnwys pêl-rwyd, pêl-droed, garddio, cyrsiau dysgu yn cael eu cynnig yma. Mae pawb hefyd yn cael cerdded i mewn i syrffio'r we; mae rhai yn ei ddefnyddio i wneud eu gwaith cartref, eraill fel dihangfa." "Yn sicr mae cael canolfan wedi gweithio yn yr ardal yma, mae'n gyfle i bobl ifanc gwrdd â ffrindiau newydd. Dwi hefyd yn credu ei fod yn tynnu unigolion oddi ar y strydoedd."
 |