BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Betws-y-coed
Plant ysgol gynradd Betws-y-coedBetws ni
Beth yw'r gwirionedd am fywyd yn y Betws? Dyma blant blwyddyn 6 ysgol gynradd y pentref i adrodd hanesion eu bro - rhai hen a diweddar.

Pwy sy'n ymweld â Betws-y-Coed?
Ceri
: Ddaru ni wneud prosiect am dwristiaeth, gan fynd rownd yn gofyn cwestiynau fel 'O ble 'da chi'n dod', 'Lle 'da chi'n aros', 'Sut ddaru chi gyrraedd yma'. Roedd rhai pobl yn neis wrthon ni, ond roedd rhai yn ein hanwybyddu!

Naomi: Roedd llawer o'r ymwelwyr yn dod o Loegr - roeddent wedi dod am y diwrnod ar fws ac roedden nhw'n dweud fod Betws yn lle neis iawn, a'u bod yn hoffi mynd am dro ac edrych yn y siopau. Roeddent yn hoffi mynd am dro ym mynyddoedd Eryri.

Ymwelwyr ym Metws-y-coed

Emily: Roedd 'na grŵp o teenagers o Lerpwl yn gofyn cwestiynau hefyd, ar gyfer eu TGAU Daearyddiaeth dwi'n meddwl. Ddaru ni ofyn iddyn nhw beth fydden nhw yn newid am Betws - a ddaru nhw ddweud 'Llai o hen bobl'! 'Da ni'n meddwl fod 'na lot o hen bobl yn dod yma hefyd.

Ddaru rhai pobl dweud wrthyn ni eu bod jest yn gyrru trwy Betws ac wedi gweld y siopau a meddwl eu bod yn edrych yn ddiddorol ac wedi stopio am ychydig.

Beth yw'r peth gorau am Fetws-y-coed?
Lewis: Siop hufen ia Cadwaladr - mae o'n wych a fy hoff flas hufen ia yw taffi.

Oes 'na rhywbeth drwg am Betws?
Y dosbarth i gyd
: Rydyn ni wedi gwneud rhestr o'r holl bethau mae'n rhaid gadael Betws a mynd draw i Landudno i'w gwneud: yr ysbyty, bowlio, dillad, esgidiau, sinema, optegydd, theatr, y traeth, marchnad a'r galeri celf.

Lewis: Weithiau, mae 'na ormod o ymwelwyr yma hefyd. Mae'n gallu bod yn anodd ffeindio rhywle i barcio tu allan i'ch tŷ ac un flwyddyn roedd 'na jam traffig yr holl ffordd i fyny at Gapel Curig!

Arwydd croeso ym Metws-y-Coed

Sut brofiad ydy byw yn y wlad?
Emily
: Mae'n neis, yn enwedig y golygfeydd a'r coed, ond weithiau mae'n gallu bod ychydig yn ddiflas. Ond mae'n dda gallu mynd am dro ac mae'n ddistaw yma.

Ond rydym yn byw wrth ymyl llethr sgïo, sy'n wych - mi fysai yn anodd cael un o'r rheina mewn dinas fawr.

Beth yw ystyr 'Betws-y-coed'?
Emily
: Mae Betws-y-coed yn golygu gwarchodfa yn y coed. Pan fyddai'r Saeson yn cadw'r Cymry allan o drefi fel Conwy byddent yn dod yma i guddio yn y coed i fod yn saff.

Dychmygwch eich bod chi'n gangster neu rhywbeth, a bod rhywun yn ceisio eich saethu oherwydd eich bod wedi gwneud rhywbeth drwg, mi fuasech yn dod i Fetws-y-coed i ddianc am ychydig. Mae cymaint o goed yma fe fyddai'n anodd i neb eich darganfod.

Ond ydy o dal yn lle diogel i fyw?
Lewis
: Ydy - i gymharu â Llanrwst!

Beth am ysbrydion Betws?
Aaron: Arferai Pentre Du fod yn wersyll byddin ac ar y triongl wrth ein hysgol ni cafodd sowldiwr ei saethu gan Almaenwr. Bob noson Calan Gaeaf am hanner nos mae pobl wedi ei weld yn cerdded o amgylch y triongl.

Wedyn roedd 'na Syr John Wynn o Castell Gwydir. Roedden nhw'n dweud ei fod yn ddyn drwg iawn. Maen nhw'n dweud fod ei ysbryd yn methu dianc o Rhaeadr Ewynnol a'i fod yn sownd yn y trobwll o dan y pistyll. 'Da chi'n gallu dweud oherwydd symudiad y dŵr ei fod o yna.

Naomi: Mae 'na hefyd stori am anghenfil mawr oedd yn byw ym Mhwll Llyn yr Afanc...


Cyfrannwch

Deiniol Thomas o Benmachno
Mae dau frawd enwog yn dod o Cwm Llannerch, ger Betws-Y-Coed, sef Rhys Gethin a Hywel Coetmor oedd yn brif gefnogwyr ac ymladdwyr i Owain Glyndwr!


Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.


Lleol i Mi
Radio Cymru
Ffilmiau


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy