BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Betws-y-coed
O Birkenhead i Betws
Pan ddaeth y ffermwr Jimmy Ritchie ar fws y BBC ym Metws-y-coed am sgwrs, fyddai neb wedi dyfalu mai un o Birkenhead oedd o'n wreiddiol.
"Roeddwn i'n efaciwî o Birkenhead yn ystod y Rhyfel. Ddaru'r ysgol anfon fform adref at holl blant fy ysgol, ac yn wreiddiol, doeddwn i na fy mrawd yn mynd i fod yn efaciwîs, ond wedyn bu farw mam, ac i ffwrdd â ni.

Felly pan roeddwn i yn naw a fy mrawd, Fred, yn chwech, cawsom ein hanfon i Bont Ddu am ryw wythnos efo Mrs Ifans. Wedyn cafodd yr efaciwîs i gyd eu hel at ei gilydd i Ddyffryn Nantlle. Bu fy mrawd a minnau'n byw gyda theulu uwchben siop gig, ond roedd fy mrawd yn colli adref ac yn crïo drwy'r nos - ac yn cadw babi'r teulu'n effro. Felly, ddaru ni symud ymlaen ar ôl noson i Fryn Meirion, Dyffryn Ardudwy - 'dyffryn on sea' fel roeddem yn ei alw!

Roeddem yn byw ar fferm efo Wncl Edward ag Anti Ann Gruffydd, oedd heb blant eu hunain. Ddaru nhw gymryd aton ni yn fawr, yn enwedig fy mrawd. Roeddwn i'n gwario lot o amser draw ar fferm Llechryd, fferm chwaer Anti Ann yn Nhal-y-bont. Cyn pen dim roeddwn yn helpu William Ifans yno efo'r godro bob bore cyn yr ysgol.

Roedd yna ryw hanner cant ohonom ni'r efaciwîs yn Dyffryn a Thal-y-bont ac roedd ganddon ni ysgol ac athrawon ein hunain. Byddai'r Saeson i gyd yn chware efo'i gilydd, ar wahân i'r Cymry. Doedden ni ddim yn gallu siarad iaith ein gilydd, er yn y diwedd, mi gychwynnon ni ddod yn ffrindiau trwy chwarae, fel mae plant yn gwneud.

Mi wnes i ddysgu Cymraeg ar ôl symud yma wrth gwrs, trwy chwarae, adref ac yn yr Ysgol Sul - roeddwn yn fachgen da ac yn mynd bob Sul!

Mi wnes i aros trwy gydol y rhyfel. Aeth rhai yn ôl, bob yn ddau a thri wrth iddynt gyrraedd 14 a gadael yr ysgol, ond roedd mam wedi marw a dad wedi symud i Ellesmere Port ac roedd yn ddeng mlynedd cyn i mi ddychwelyd i Birkenhead. Roedd yna fwy o dynfa yng Nghymru nac yno erbyn hynny.

Yn y diwedd dim ond ryw dri ohonom ni'r bechgyn oedd ar ôl - fi, fy mrawd a Georgie Woollie, ac mi aethon ni i gyd i Ysgol Dyffryn Nantlle ar ôl i ysgol yr efaciwîs orffen.

Ar ôl ymadael â'r ysgol, es i weithio ar fferm Llechryd - i ddisgwyl i fod yn ddigon hen i ymuno â'r Merchant Navy fwy na dim, ond wedyn ges i TB. Es i'r ysbyty ym Machynlleth am dros bum mis a'r peth gwaethaf oedd bod rhai ddaeth i mewn ar fy ôl i yn mynd adref yn gynt.

Felly yn ôl i Fryn Meirion â mi ar ôl gwella a chyfarfod Emyr Wyn. Ddaru o ofyn un diwrnod dros ginio: 'Ti'm yn bored stiff i lawr yn y Dyffryn?' 'Yndw,' medda fi, felly es i weithio ar ei fferm ac aros am dros dair blynedd, cyfarfod Annie, merch Bron Caled ac i ffwrdd â ni i Ysbyty Ifan.

Dwi'n byw yn Ysbyty Ifan ers 30 mlynedd erbyn hyn. Dwi'n ffermwr, a symudais yma gan ei bod yn haws cael tir i bori defaid. Dwi'n gwneud llai rŵan, ond mae fy mab a'i fab o yn edrych ar ôl y fferm, felly mae am aros yn y teulu, er nad oedd yna ddim cefndir ffermio yn fy nheulu i cyn i mi ddod yma.

Dwi'n fwy o Gymro na Sais erbyn hyn. Mae fy mrawd yn dal i siarad Cymraeg, er ei fod yn Lloegr ers pan mae'n 17 oed. Mae gennym ni ddwy chwaer hefyd, Edna a Betty, ond gan eu bod yn ifanc iawn pan fu farw mam aeth y ddwy at ffrindiau'r teulu ac maen nhw'n dal i fyw yn Birkenhead. Ond Anti Ann ag Wncl Edward oedd fy ngeulu i a fy mrawd â dweud y gwir."


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.


Lleol i Mi
Radio Cymru
Eisteddfodau


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy