"Be' fydda i'n ddweud ydy, os oes 'na enw Cymraeg ar rwla, a dydy o ddim yn gwneud sens, mae o'n anghywir.
"Beth oedd yn digwydd oedd bod gan bob eglwys ficer, ac i bob ficer roedd 'na giwrat gwell oedd yn gallu sillafu! Ond wrth i'r ficar briodi neu gladdu rhywun, byddai'n gofyn am eu enw a lle roeddent yn byw. Fysa fo byth yn gofyn 'Sut 'da chi'n sillafu hwnna?' Jest yn ei 'sgwennu i lawr fel roedd o'n ei weld o, ac yna yn ei ail-gofnodi a dyna fo. Dyna sut oedd sillafu'r lle yn ffurfiol o hynny ymlaen.
"Er enghraifft, Coed Cynnar Ddail yw Coed Cynhelir, sydd ger Betws-y-coed.
"Mae rhai enwau llefydd eraill yn gyfuniad o eiriau. Ar y ffordd i'r Betws mae 'na dŷ o'r enw y Greffin. Ddaru rhywun ofyn i mi ddarganfod ei ystyr ac mi wnes i ddarganfod ei fod yn cyfeirio at 'a great wall boundary between that parish and this parish'. Hynny yw, 'gre', sef cryf, a 'ffin', sef boundary.
"Hefyd, mae rhai enwau yn newid am nad oedd y Saeson yn gallu eu dweud nhw. Fel Moel Siabod, gan fod Saeson yn methu dweud Moel Plas yr Abad.
"Mae plas yr abad yna byth. Byddai'r abad yn dod o Feddgelert, dweud rhyw bregeth lle mae'r hen Roman Camp rŵan ac yna i fyny â fo am Ddolwyddelan i hel pres i'r brenin. Roedd degwm o'r tair ardal yna yn mynd i dalu am un o wragedd Henry VIII!!
"Hefyd, wyddoch chi mai Moel Siabod yw mynydd mwyaf Ewrop? 23 milltir o'i gwmpas, 3000 troedfedd o uchder. Mae'r mynyddoedd eraill, Mont Blanc, yr Wyddfa, i gyd ynghlwm wrth fynyddoedd eraill. Ond mae'r un yma ar ei ben ei hun, yn ymestyn trwy Groesor, i fyny am odra'r Moelwyn, yn ôl trwy Ddolwyddelan i Fetws, ac un mynydd ydy o i gyd.
"Mi ddywedais i hyn wrth John Roberts o Barc Cenedlaethol Eryri. 'Na!', meddai, 'dwi'n ei basio fo pob dydd!' Ond nid y mynydd uchaf ydy o, ond y mynydd mwyaf. Felly mi wnaeth John gysylltu efo pobl o Ffrainc, yr Almaen a Sbaen ac mi ddaethon nhw i gyd yn ôl ato i ddweud ia, Moel Siabod ydy'r mynydd mwyaf yn Ewrop."
Ystyr Betws-y-coed a mwy...