BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Betws-y-coed
Eglwys Mihangel SantPontydd a choed
Beth am goed y Betws? Mwy o hanes leol gan Glyn Jones.
"Dywedodd yr hanesydd enwog o Ddinbych, Edward Llwyd: 'the mightiest oaks in Britain grow at Gwydir'.

"Mae'r ywen yn goeden bwysig ac mae yna lawer ohonynt yn hen Eglwys Mihangel Sant. Mae yna sawl syniad pam: i gadw'r diafol i ffwrdd neu er mwyn llosgi brigyn a'i ddefnyddio i roi marc croes ar dalcen pobl wrth iddynt gael eu bedyddio ar Dydd Mercher Lludw.

"Roedd yna goed derw hyd yn oed ar ochrau'r Wyddfa flynyddoedd yn ôl gan fod y derwyddon yn lluchio mes wrth ddringo'r mynydd i ddathlu gŵyl fel y cynhaeaf neu foli'r lleuad. A beth sy'n digwydd i fes? Tyfu i fod yn goed derw! Diflannodd y coed pan ddaeth y ddeddf i ffensio eich tir i ddangos mai chi oedd bia fo - felly defnyddiwyd y coed i greu'r ffensiau ac adeiladu tai.

"Hefyd, dim ond y ficer oedd â'r hawl i dorri'r goeden ywen i lawr. Roedd y pren yn cael ei ddefnyddio i greu bwa a saeth - byddai'r ficer felly yn gallu cadw llygad ar bwy oedd angen saethau ar gyfer cwffio, hela neu amddiffyn eu pentref.

Pont y Pair ym Metws-y-coedPontydd Betws

"Mae pawb yn sôn am Bont y Pair yn Saesneg fel 'the area of the whirlpool', neu'r 'cauldron pool' wrth sôn am y bont yma am fod y dŵr yn troi yn yr afon fan hon Ond dydy o ddim yn golygu hynny o gwbl. Mae'n syml - draw ar ochr arall yr afon oedd y pyllau - y 'mines'. 'Miners' bridge' ydy'r enw - 'the bridge to the mines'. A'r Gymraeg am 'mine' yw 'pair'. Mi ffendiais i hynny wrth yrru heibio Sygun Mine ger Cricieth - a gweld yr arwydd newydd Cymraeg 'Pair Sygun'.

"Mae Pont yr Afanc (Beaver's Bridge) yn cyfeirio at hen chwedl yr afanc a oedd yn byw yn Llyn Afanc. Dwi ddim yn gwybod pam mai beaver ydy o yn Saesneg!

"Enw go iawn Pont Waterloo yw Pont Llynnon - y llyn lle mae'r goeden onnen yn tyfu faswn i'n ei feddwl. 'Sa nhw heb ennill brwydr Waterloo, Pont Llynnon fysa fo!"

  • Nôl i'r dudalen gyntaf - ystyr enw 'Betws-y-coed'

  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.


    Lleol i Mi
    Radio Cymru
    Llyfrau


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy