BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Betws-y-coed
Delyth PhillipsRhyd-y-creuau
Dyma Delyth Phillips o Landdulas, swyddog cymunedol yng nghanolfan faes Rhyd-y-creuau ger Betws-y-coed i sôn am ei gwaith o gyflwyno plant yr ardal i'w hamgylchedd.
"'Rydyn ni'n cynnig addysg amgylcheddol i blant, gyda'r cyfle i aros yma hefyd.

"Roedd y rhan fwyaf o'r plant yn dod o Loegr cyn i mi ddod yma, ond roeddent eisiau rhywun Cymraeg i gynnig cyrsiau i ysgolion lleol. Dwi wedi cael fy magu yng ngogledd Cymru, heb gael y cyfle i fynd i lefydd fel hyn.

Doedden ni ddim yn mynd efo'r ysgol, ac felly byddwn i a fy ffrindiau fyth yn meddwl mynd i gerdded yn Eryri, gan ein bod yn meddwl bod yn rhaid cael arbenigedd mewn mynydda i wneud hynny. Doedden ni ddim yn gyfarwydd â'r wlad o'n cwmpas ac roedd 'na hefyd ddiffyg hyder, er ein bod wedi byw yma erioed.

"Dwi'n sôn am gynaladwyedd - sut i fod yn fwy gwyrdd trwy ail-gylchu, defnyddio llai o ynni ac yn y blaen. Y pethau hawsaf i'w wneud yw cychwyn defnyddio llai a defnyddio rhywbeth mewn ffordd wahanol. Insiwleiddio'r tŷ fel nad yw'r cynhesrwydd yn dianc trwy'r to a'r waliau, a diffodd offer fel teledu a DVD yn lle eu gadael ar standby a defnyddio lot fawr o ynni.

"Dwi'n dangos i'r plant beth a sut i ail-gylchu. Dwi'n dangos y symbol ar wastraff plastig sy'n dweud ein bod yn gallu ei ail-gylchu, a'r rhif o fewn y symbol sy'n dweud pa fath o blastig ydy o. Mae llawer o bobl gwledydd Ewrop yn deall hyn ond mae gan Brydain ffordd bell i fynd.

"Dwi hefyd yn sôn am fioamrywiaeth - trïo annog y plant i gymryd sylw o'r amgylchedd o'u cwmpas - cymharu gwahanol gynefinoedd - pa anifeiliaid sydd yno, pa fath o goed sy'n tyfu, beth sydd yna i'w glywed a'i arogli. Mae pawb yn rhuthro o gwmpas gymaint ac mae plant eisiau popeth mor sydyn. Fa'ma, gobeithio, maen nhw'n dysgu i ddefnyddio eu dychymyg.

"Maen nhw hefyd yn gallu datblygu sgiliau newydd, fel y plant sydd ddim mor dda yn gwneud gwaith ysgrifenedig ond, drwy beidio gorfod gwneud hynny, yn darganfod bod ganddynt wybodaeth gyffredinol dda iawn.

Rhyd-y-creuau "Cafodd Rhyd-y-creuau ei agor 40 o flynyddoedd yn ôl. Roedd yn rhan o stâd y Foelas. Mae'r tŷ reit grand. Mae fferm Rhyd-y-creuau drws nesa a choed Rhyd-y-creuau dros y ffordd - dim i wneud efo ni, ond dwi'n siŵr eu bod i gyd yn rhan o'r stâd.

"Cafodd wedyn ei wneud yn ysgol breswyl i fechgyn bonedd, yna ei chau i lawr ac aeth yn adfail. Cafodd ei phrynu gan y Field Studies Council, gyda help gan Drapers, cwmni yn Llundain sy'n edrych ar ôl arian ymddiriedolaethau ar gyfer gwella addysg plant.

"Mae'r adeilad yn dal fel oedd o y tu mewn ac yn gallu codi ofn ar bobl! Mae ar bobl ofn bod yna ar eu pen eu hunain, yn enwedig gyda'r nos gan ei bod yn dywyll, dywyll yna - dim golau tu allan, sŵn tylluanod a synau'r hen dŷ!"


Cyfrannwch

Beth o conwy
Tua 2 wythnos yn ol aeth blwyddyn 5 a 6 o ysgol ni i dilyn afon conwy hefo Rhyd y creuau ac roedd Delyth Philips yn dysgu ni. A tipyn bach yn ol aeth blwyddyn chwech i Rhyd y creau am 5 diwrnod, roedd on gret. Ers i fi bod i Rhyd-y-Creuau dwi wedi dysgu lot am anifeliaid a popeth. Rhowch diolch fawr i Pawb yn Rhyd y creuau.Diolch, x Beth.


Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.


Lleol i Mi
Radio Cymru
Llyfrau


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy