"Mae 'na lot fawr o bethau yn mynd ymlaen yn Theatr y Ddraig. Mae gennym ni ddawns te bob p'nawn Mercher rhwng 2pm a 4pm a dawnsio llinell bob dydd Llun rhwng 2pm a 4pm. Ar hyn y bryd rydym yn cynnal dosbarth Flamenco bob nos Lun, sy'n lot fawr o hŵyl.
"Gan ein bod hefyd yn ganolfan gymunedol, mae 'na dros 40 o grwpiau cymdeithasol gwahanol yn cyfarfod yn y theatr, fel band jazz, grwpiau drama i'r ieuenctid ac i bobl hŷn.
"Yn ogystal â'r dosbarthiadau, mae gennym o leiaf un digwyddiad bob wythnos, os yn berfformiad byw neu yn ffilm. 'Does dim sinema arall am ryw 25 o filltiroedd felly mae'n dda rhoi cyfle i'r gymuned wylio ffilm.
"Dim ond y fi sydd yma fel aelod o staff sy'n cael ei dalu - rydym yn ddibynnol ar wirfoddolwyr i helpu efo'r marchnata, y stiwardio, cefn llwyfan a rhedeg yr offer dangos ffilm. Os oes gennych unrhyw ddiddordeb mewn dod draw i helpu, cysylltwch â'r theatr. Mae gennym ni gwrs ar hyn o bryd sy'n cyflwyno pobl i elfennau gwahanol o waith theatr ac mae'n rhoi blas da i'r holl bethau gwahanol y gallwch eu gwneud i'n helpu ni.
"Y peth pwysicaf wrth redeg theatr fach yw'r gallu i adweithio i sefyllfaoedd yn gyflym. Mae gennym ni ddyddiadur misol felly mae'n bosib bwcio pethau'n gyflym os oes rhywbeth neu rhywun o ddiddordeb ar gael i ddod draw.
"Yn ffodus, mae'r celfyddydau a gweithgareddau diwylliannol yn boblogaidd iawn mewn ardaloedd fel Bermo erbyn hyn. Mae pobl yn eu defnyddio fel ffordd i hel arian neu i gyfarfod pobl eraill. Mae'r gymuned leol yn gefnogwyr da o'r theatr fach yma. "Os ydych am wybod beth sy'n mynd ymlaen yn y theatr, ffoniwch ni ar 01341 281697 ac mi allwn eich rhoi ar y rhestr e-bostio. Gallwch hefyd gael copi o'r dyddiadur misol yn swyddfeydd twristiaeth Bermo, Dolgellau a Harlech a chan fusnesau lleol." Alison Williams
 |